HANES EIN SIR

 

  

Diwrnod Gwaith Maes C.Ff.I Sir Gâr 2009


Cynhaliwyd Diwrnod Gwaith Maes Flynyddol Ffermwyr Ieuainc Sir Gâr ar Sadwrn, 4ydd Ebrill 2009 ym Mart Caerfyrddin, Nantyci trwy caniatad caredig Bob Jones Prydderch a'i gwmni.

 

Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth fenthyca stoc ac unrhyw anghenion tuag at y diwrnod a diolch arbennig i'r holl stiwardiaid o glwb C.FF.I Llanddarog am eu gwaith diflino. Diolch yn ogystal i'r holl feirniaid a phawb arall sydd wedi sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiant.

Diolch arbennig i Gwmni Simons Construction am fod yn brif noddwyr y diwrnod ac am eu cefnogaeth parod i'r Mudiad yn Sir Gâr.

Yng nghystadleuaeth Stocmon Hyn bu 19 yn brwydro am

deitl Stocmon y flwyddyn

Yn fuddugol oedd;

1af= Geraint Rees, Llanelli

2ail= Iwan Thomas, Llannon

3ydd= Rhys Beynon Thomas, Llannon

4ydd= Dylan Jones, Cwmann

 

Fe wnaeth 24 gystadlu yn y gystadleuaeth 'stocmon iau y flwyddyn'

1af= Eirwyn Richards, Dyffryn Cothi

2ail= Eirian Jones, Llanfynydd

3ydd= Rhydian Thomas, Cwmann

4ydd=Iestyn Russell Cwmann

Bydd yr wyth uchod yn mynd ymlaen i gynrhychioli'r Sir yng Ngyhystadleuaeth Stocmon yn Niwrnod Gwaith Maes Cymru ddiwedd mis Ebrill.

 

Yng Nghystadleuaeth Diogelwch Fferm fe fu 14eg o dîmau'n cystadlu gyda Elin Daniels a Ceirios Davies, C.Ff.I Dyffryn Tywi yn 1af, a Iestyn Owen a Simon Mc Call, C.Ff.I Capel Dewi a Gwenann Jones a Emily Henson, C.Ff.I Dyffryn Tywi yn rhannu'r 2ail wobr.

 Bu 25ain o dîmau'n cystadlu yng nghystadleuaeth 'Her Natur'. Hanna Davies a Jane Davies, C.Ff.I Dyffryn Cothi daeth i'r brig gyda Iestyn Owen a Simon Mc Call, C.Ff.I Capel Dewi yn 2ail a Elin Daniels a Gemma Harries, C.Ff.I Dyffryn Tywi yn 3ydd.               

Bydd y buddugwyr yn y y Gystadleuaeth Diogelwch â'r daith natur hefyd yn mynd ymlaen i gynrychioli'r Sir yn Niwrnod Gwaith Maes Cymru lan yn Ynys Môn.

Am y tro cyntaf eleni fe wnaethom gynnal cystadleuaeth Paratoi ceffyl gyda 10 o unigolion wedi mentro yn y gystadleuaeth newydd yma.

Yn fuddugol oedd Elizabeth Harries, C.Ff.I Dyffryn Tywi, Lisa Davies, C.Ff.I Dyffryn Tywi yn ail a Helena Hamer, C.Ff.I Llangadog yn 3ydd.

Yng Nghystadleuaeth Hyrwyddo Clwb, Dylan Jones, Dewi Jones, Carys Davies a Gethin Edwards fydd yn cynrychioli'r Sir yng nghystadleuaeth Lefel Cymru fydd yn cael ei gynnal yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae Cystadleuaeth gwneud arwydd i hysbysebu Rali flynyddol C.Ff.I Sir Gâr yn un poblogaidd iawn erbyn hyn gyda 12eg o glybiau yn dangos eu doniau artistig.

Am yr ail flynedd yn olynnol C.Ff.I Llanllwni daeth i'r brig gyda C.Ff.I Llangadog yn 2ail a C.ff.I Llanelli yn 3ydd.

 

PANTOMEIM C.FF.I SIR GAERFYRDDIN

 

Cynhaliwyd Cystadleuthau Pantomeim Cymraeg a Saesneg C.FF.I Sir Gâr yn Neuadd San Pedr yn ddiweddar.

Bu Pedair noson o gystadlu brwd gyda Llanymddyfri yn cystadlu yn y Pantomeim Saesneg a 10 clwb yn yr adran Gymraeg.

 

Llongyfarchiadau mawr i C.FF.I Llanymddyfri ar berfformiad arbennig o'i Pantomeim 'The Lady of the lake' a phob lwc iddynt yng nghystadleuaeth Cymru fydd yn cael ei gynnal ar nos Wener 6ed Fawrth ym Mhort Talbot.

 

C.Ff.I Cynwyl Elfed daeth i'r brig yn yr adran Gymraeg gyda C.FF.I  Dyffryn Cothi yn 2ail a C.Ff.I Penybont yn 3ydd. Llongyfarchiadau mawr i'r clybiau yma am berfformiad gwych.

 Fe aeth y gwobrau am yr unigolion gorau yn yr adran Cymraeg & Saesneg  i'r canlynol :-

18 oed neu o dan

Merch -Alaw Ifans, C.Ff.I Penybont

Bachgen- Alun Howells, C.Ff.I Penybont

26 oed neu o dan 

Merch - Heledd Hughes, C.FF.I  Cynwyl Elfed

Bachgen -Curon Davies, C.FF.I   Cynwyl Elfed

Cynhyrchwyr gorau

 C.FF.I Cynwyl Elfed

Fe fydd C.Ff.I Cynwyl Elfed yn cynrychioli'r Sir yng nghystadleuaeth lefel Cymru yn Theatr John Ambrose, Rhuthin diwedd Mis Mawrth.

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i'n beirniad am yr wythnos sef Mrs Helen Wyn.

Diolch hefyd i bawb fuodd yn cynorthwyo yn ystod yr wythnos a diolch arbennig i Dilwyn a Tristan fu'n gweithio'n ddiwyd wrth y Golau â'r Sain.

Ni fyddai'r wythnos wedi bod yn bosib heb ein noddwyr sef - Mr Mounsey, Mc Donalds, Caerfyrddin,  Pricipality, Caerfyrddin, Sioe Aberteifi, Cyngor Sir Gâr a hefyd Undeb Amaethwyr Cymru am noddi'r gwobrau.

  

 CYSTADLEUAETH HANNER AWR ADLONIANT 2009

Cynhaliwyd Cystadleuthau Hanner awr Adloniant C.FF.I Sir Gâr yn Neuadd San Pedr ar Nos Fercher 25ain Chwefror.

Bu Pedwar clwb yn cystadlu yn y gystadleuaeth eleni.

 

Llongyfarchiadau mawr i C.FF.I Llanllwni a ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau yn ogystal i C.Ff.I Llanelli a ddaeth yn 2ail a C.Ff.I San Ishmael yn 3ydd.

 Fe aeth y gwobrau am yr unigolion gorau i'r canlynol :-

 18 oed neu o dan

Merch - Nia Griffiths,  C.FF.I  San Ishmael

Bachgen-Owain Davies, C.FF.I Llanllwni

26 oed neu o dan 

Merch - Carys Thomas, C.FF.I  San Ishmael

Bachgen -Geraint Rees, C.FF.I   Llanelli

Cynhyrchwyr gorau

 C.FF.I Llanllwni

Rydym yn ddiolchgar iawn i'n beirniad sef Mrs Carys Edwards.

Ni fyddai'r noson wedi bod yn bosib heb ein noddwyr sef - Sioe Aberteifi a Undeb Amaethwyr Cymru.

 

 

 

Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg

Ar Ddydd Sadwrn 17eg Ionawr cynhaliwyd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg C.Ff.I Sir Gâr yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Bu yna gystadlu brwd trwy gydol y dydd.

 

DARLLEN

Yn fuddugol yn adran y Darllen ac yn ennill Cwpan arian oedd Jessica Davies, Carys Davies a Mared Dafydd C.Ff.I Llangadog, daeth Heledd Thomas, Heledd Roberts a Evan Davies C.Ff.I Llangadog yn 2ail a Elin Childs, Sara Non Thomas, Elinor Dyer C.Ff.I Llanfynydd yn 3ydd.

 

Cyflwynwyd Cwpan arian  i Jessica Davies, C.Ff.I Llangadog fel Unigolyn gorau'r gystadleuaeth.

 

 

Fe fydd Jessica Davies, C.Ff.I Llangadog, Heledd Rees, C.Ff.I Capel Iwan a Mared Dafydd, C.Ff.I Llangadog yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gynrychioli'r Sir yng nghystadleuthau lefel Cymru ym Mis Mawrth.

 

 

ADRAN IAU

Yn gydradd 1af yn yr adran Iau ac yn ennill Cwpan Teulu Pantyffynnon oedd Ffion Thomas, Meinir Thomas, Heledd Thomas, C.Ff.I Llangadog a Dewi Jones, Gemma Harries a Lisa Davies, C.Ff.I Dyffryn Tywi ac yn 3ydd Sioned Maskell, Rhian Davies a Daniel Joynson, C.Ff.I Llanllwni.

 

Cyflwynwyd Cwpan Teulu Ffosyffin  i Dewi Jones, C.Ff.I Dyffryn Tywi fel Unigolyn gorau'r gystadleuaeth.

 

Rhian Davies, C.Ff.I Llanllwni, Dewi Jones, C.Ff.I Dyffryn Tywi a Sioned Davies, C.Ff.I Llanfynydd fydd yn cynrychioli'r Sir yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus adran Iau yng nghystadleuthau lefel Cymru ym mis Mawrth.

 

ADRAN GANOL

Yn y gystadleuaeth adran Ganol daeth Dylan Bowen , Elliw James, Hefin Evans a Lleucu Phillips C.Ff.I Capel Iwan yn fuddugol ac yn derbyn Cwpan Alun James, yn yr 2ail safle oedd Lowri Rees, Ffion Jones, Rhys Williams a Ffion Rees C.Ff.I Llanfynydd.

 

Yn ennill Tarian Emyr Williams am yr unigolyn gorau yn yr adran oedd Ffion Jones, C.Ff.I Llanfynydd.

 

Fe fydd Dylan Bowen, Elliw James a Lleucu Phillips C.Ff.I Capel Iwan a Ffion Jones, C.Ff.I Llanfynydd  yn cynrychioli'r Sir yng nghystadleuaeth Adran Ganol Cymraeg lefel Cymru ym mis Mawrth yn Rhuthun.

 

ADRAN HYN

Yn y gystadleuaeth adran Hyn cyflwynwyd Cwpan y diweddar Henadur S.O. Thomas i'r buddugwyr sef Bethan Davies, Louisa Standeven, Lowri Thomas a Rhian Evans, C.Ff.I Llanddarog yn 2ail oedd Arwel Jones, Elin Harries, C.Ff.I Llandeilo, Llinos Davies, C.Ff.I Llanelli a Hefin Jones, C.Ff.I Llanarthne ac yn 3ydd oedd Elin Thomas, Rachel Hughes, Llinos Thomas a Ruth Hughes, C.Ff.I Llangadog.

 

Yn ennill Cwpan Pat Davies am y perfforiad gorau yn yr adran oedd Hefin Jones, C.Ff.I Llanarthne .

 

Yr unigolion fydd yn cyrychioli'r Sir yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Adran Hyn ar lefel Cymru fydd Bethan Davies, Lowri Thomas, C.Ff.I Llanddarog, Hefin Jones, C.Ff.I Llanarthne a Ruth Hughes, C.Ff.I Llangadog.

 

Diolch yn fawr iawn i'r beirniaid- Mrs Delor James, Miss Enfys Evans a Mr John Davies

am eu gwaith caled ac i Ysgol Nantgaredig am leoliad mor addas ar gyfer y gystadleuaeth.

 

Diolch yn ogystal i Caws Nantybwla a Bîff Organic Gwartheg Duon Cymreig - Fferm Tyllwyd am noddi'r diwrnod.

 

 

 

Teithio Tramor

Yn ddiweddar, fe wnaeth nifer o  aelodau C.FF.I Sir Gâr fynychu cyfweliadau ar gyfer teithiau tramor ar lefel Cymru ac yn Genedlaethol. Fe wnaeth pob aelod a aeth i'r cyfweliadau o Glybiau sir Gâr ennill cyfleon i deithio tramor yn ystod y flwyddyn sydd i ddod- camp arbennig.

Bu dau aelod o Glwb Penybont yn llwyddiannus yn ystod diwrnod cyfweliadau C.Ff.I Cymru. Fe fydd Delyth Robinson, Waunafon, Llanfyrnach yn teithio i'r Alban yn ystod Mis Mehefin 2009 ac fe fydd Rhys Parry Williams, Coedfryn, Penybont yn cynrychioli'r Sir a Chymru yn Seminar yr Hydref yn Slovenia.

Bydd Emyr Beynon, Tir Bach, Glan y Fferi, aelod o G.Ff.I San Ishmael yn teithio i'r Ffindir.

Cafodd Ruth Hughes, Llwynmendy, Bethlehem aelod o Glwb Llangadog ei dewis fel  rhan o dîm Cymru i'r Rali Ewropeaidd fydd yn cael ei lwyfannu yn Latvia yn 2009. Fe fuodd ei chwaer hefyd yn llwyddiannus yn ennill taith i Unol Daleithau America ym mis Hydref 09.

Fe wnaeth Siân Davies, Cothivale, Crugybar aelod o G.Ff.I Dyffryn Cothi ennill ysgoloriaeth Coffa Elwyn Jones i deithio tramor i wlad o'i dewis- gwobr gwerth £2000.

Fe fydd Dylan Bowen, Tan y Bryn, Castell Newydd Emlyn aelod o G.Ff.I Capel Iwan yn cynrychioli'r Sir yn Seminar y Gwanwyn fydd yn cael ei gynnal yn Latvia

Bydd Carwyn Edwards, Maesmoi, Pumsaint aelod o G.Ff.I Dyffryn Cothi yn cynrychioli C.Ff.I Cymru a Cenedlaethol ar daith C. Alma Baker i weithio yn Seland Newydd.

Hefyd yn cynrychioli C.Ff.I Cymru a Chenedlaethol fydd Aled Gibbon, Pwllywhead, Hendygwyn ar dâf aelod o Glwb Hendygwyn ar dâf fydd yn mynd allan i Argentina i weithio am gyfnod ac fe fydd Carys Thomas, Ger y llan, Llandyfaelog aelod o G.Ff.I San Ishmael yn rhan o'r tîm fydd yn teithio i Kenya.

Llongyfarchiadau mawr a phob lwc iddynt ar ei teithiau o amgylch y byd.

 

Ffair Aeaf 2008

Ar y 1af ac 2ail o Fis Rhagfyr aeth nifer o aelodau C.Ff.I Sir Gâr lan i Ffair Aeaf Cymru yn Llanelwedd i gystadlu yng nghystadleuthau C.Ff.I Cymru.

 

Ar Fore Dydd Llun bu Owen Davies, C.Ff.I Dyffryn Cothi & Rhian Davies, C.Ff.I Llanllwni yn dangos eu doniau artistig yng nghystadleuaeth 'Gwisgo Coeden Nadolig'.

 

Thomas Price, C.FF.I Llanymddyfri a David Astington C.Ff.I Dyffryn Cothi bu'n cynrychioli'r Sir yn y gystadleuaeth 'Her ATV'.

 

Barnu Carcas Wyn oedd y gystadleuaeth olaf Dydd Llun - Daeth tîm Sir Gâr  sef Meinir Jones, Ffion Jones, Eirian Jones & Angharad Francis C.Ff.I Llanfynydd yn ail yn y gystadleuaeth a oedd wedi ei noddi gan Randal Parker Foods.

 

Braf oedd gweld brawd a chwaer ar y brig ar ddiwedd y dydd gyda Meinir Jones, C.Ff.I Llanfynydd yn gyntaf yn yr adran 26 neu iau yn y gystadleuaeth barnu carcas wyn a'i brawd Eirian Jones hefyd o G.Ff.I Llanfynydd yn ail yn yr adran 18 neu iau yn y gystadleuaeth barnu carcas wyn.

Ar fore Dydd Mawth roedd Arwel Jones, C.Ff.I Llandeilo, Robert Jones, C.Ff.I San Ishmael, Angharad Thomas, C.Ff.I Dyffryn Tywi ac Angharad Francis, C.Ff.I Llanfynydd  yn cystadlu yng ngystadleuaeth barnu gwartheg bîff a Geraint Rees, C.Ff.I Llanelli, Ffion Jones, C.Ff.I Llanfynydd, Elgan Thomas, C.Ff.I Llanfynydd a Sara Non Thomas, C.Ff.I Llanfynydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth Barnu wyn Cigyddion.

Roedd y gystadleuaeth Magu llo yn hynod boblogaidd eleni eto gyda pump o aelodau Sir Gâr yn cymeryd rhan. Berwyn Hughes, C.Ff. Cwmann, Geraint Griffiths, C.Ff.I Dyffryn Cothi, Dylan Jones, C.FF.I Dyffryn Tywi, Eirwyn Richards, C.Ff.I Dyffryn Cothi, Jenny Davies C.Ff.I Llanllwni oedd y pump. Fe ddaeth Berwyn Hughes, C.Ff.I Cwmman yn ail yn adran yr eidonnau a Geraint Griffiths, C.FF.I Dyffryn Cothi yn 3ydd yn adran y trishedu.

 

Fe fu Angharad Francis, C.Ff.I Llanfynydd, Katy Davies, C.Ff.I Penybont ac Aled Davies, C.Ff.I Llangadog  yn cystadlu yng nghystadleuaeth Magu oen eleni. Gosodwyd Katy Davies, C.Ff.I Penybont yn Is- bencampwr yn adran yr ucheldir.

Llongyfarchiadau mawr i Bedwyn Rees, C.Ff.I Capel Iwan ar ddod yn 2ail yng Nghystadleuaeth Menter CFfI Cymru NatWest. Enillodd yr ail wobr o £500 ar ôl iddo ddisgrifio ei fusnes gwaith coed a fydd yn cael ei sefydlu yn fuan. Mae Bedwyn yn gobeithio canolbwyntio ar greu darnau unigryw o ddodrefn ac adfer hen eitemau o ddodrefn.

Bu Eirwyn Richards, C.Ff.I Dyffryn Cothi yn cynrychioli'r Sir yng nghystadleuaeth trimo oen.

Fe wnaeth Sam Joynson, C.Ff.I Llanllwni gystadlu yng nghystadleuaeth 'Shear Magic' sef cynllunio logo ar gyfer gornest gneifio'r byd fydd yn dod i Gymru yn 2010.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a wnaeth gystadlu a diolch yn fawr iddynt ac hefyd i bawb a wnaeth eu cynorthwyo.

 

 NEWYDDION O AGM CYMRU - NEWS FROM THE WALES AGM

ABERYSTWYTH 2008