PWY? BETH? BLE? - WHO? WHAT? WHERE?
Gwasanaeth Carolau Mudiad C.Ff.I Sir Gâr
Cynhalwyd gwasanaeth carolau Mudiad C.Ff.I Sir Gâr yng nghapel Crugybar Nos Sul 13eg Rhagfyr 2009 gyda’r capel dan ei sang.
Roedd aelodau a chefnogwyr y Mudiad wedi teithio o bob cwr i ymuno yn y gwasanaeth hyfryd lle cydganwyd naw o garolau.
Fe wnaeth Owen Davies, Cadeirydd y Sir groesawi pawb i gapel y teulu a chyflwynwyd y carol gan Elin Davies, C.FfI Abernant, Louisa Standeven, Llanddarog, Virginia Jones, Hendygwyn, Gwenno Jones, Capel Dewi, Llinos Jones, Llanarthne, Elin Childs, C.Ff.I Llanfynydd, Iwan Thomas, Llannon, Emyr Beynon, San Ishmael a Owen Lewis, San Cler.
Cafwyd eitemau hyfryd gan barti Deulais Penybont o dan arweiniad medrus Mrs Sioned Page- Jones, Parti merched Dyffryn Cothi,.Rhian Davies, Llanymddyfri, eitem offerynnol gan Grug Roberts a Sioned Evans San Pedr., Ceirios Davies, Dyffryn Tywi, Aelodau Capel Iwan, Heledd a Meilyr Hughes, Cynwyl Elfed a Sara Mair a Carys Haf, Dyffryn Cothi.
Yn ogystal cafwyd darlleniadau o’r beibl ganGemma Harries, Dyffryn Tywi a Meryl Davies, Llanllwni. Bethan Griffiths, Dyffryn Cothi wnaeth y weddi Gymraeg a Arwel Jones, Llandeilo y weddi Saesneg.
Aelodau o glwb Dyffryn Cothi wnaeth y casgliad sef Dai Astington, Aled Jones, Hywel Davies ac Emyr Richards. Casglwyd £624 o bunnau tuag at Cancr y Pancreas a fydd yn cael ei gyflwyno i apêl Amser Justin, cronfa sydd wedi ei sefydlu gan Shân Cothi un o gyn aelodau’r clwb at yr achos teilwng uchod. Diolch yn ogystal i Heulwen Evans o Fanc Barclays am £1 am £1 tuag at y Mudiad.
Cafwyd anerchiad pwrpasol dros ben a neges pendant i bawb gan Weinidog y Capel , Parchedig Huw Roberts. ‘Roedd wedi ategu yn fawr tuag at y gwasanaeth. Rhaid diolch yn gynnes iawn i Mr.Elfyn Davies am gyfeilio yn hyfryd yn ystod y gwasanaeth,- mae Elfyn wastad yn barod ei gymwynas i’r Mudiad, Diolch hefyd i Rhian Jones a Sue Hughes.
Dymuna’r Ffederasiwn ddiolch i holl Swyddogion ac aelodau’r Capel am adael i’r Mudiad gynnal y gwasanaeth yn y Capel, diolch arbennig hefyd I bawb a wnaeth paratoi lluniaeth hyfryd ar ôl y gwasanaeth.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth i’r Mudiad eleni eto yn Sir Gâr a charwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn dda i bawb.