Teithiodd aelodau Ffermwyr Ifanc o bob cwr o Gymru i Ffair Aeaf Brenhinol Cymru i gystadlu mewn amryw o gystadleuthau megis Barnu Carcas Wŷn, arddurno torch Nadolig a Barnu Gwartheg Cigyddion yn ddiweddar. Cafwyd cydtadlu brwd dros y deuddydd, gyda safon uchel iawn yn cael ei ddangos.
Roedd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn cystadlu yn y cystadleuthau Trimio Oen, Barnu Carcas Wŷn, Barnu Wŷn Cigyddion, Barnu Gwartheg Cigyddion, ac Arddurno Torch Nadolig. Llongyfarchiadau i bob aelod cynrychiolodd y Sir yn y cystadlaethau yma, a diolch yn fawr i’r holl hyfforddwyr am eich gwaith i helpu’r holl aelodau.
Dyma’r Canlyniadau:
Ioan Jones, C.Ff.I. Llanfynydd oedd yn cynrychioli’r Sir yn y gystadleuaeth yma. Llongyfarchiadau i Ioan am ennill cystadleuaeth o safon uchel iawn.
Sion Roberts o glwb Llangadog, Tomos Griffiths o glwb San Ishmael, Ifor Jones o glwb Llanllwni a Elin Childs o glwb Llanfynydd fu yn cynrhychioli’r Sir. Llongyfarchiadau I Tomos Griffiths am ennill y gystdleuaeth i aelodau o dan 18, ac i Ifor Jones am ddod yn drydydd. Ar y cyfan, death y tîm yn 4ydd. Llongyfarchiadau mawr iddynt.
Daeth Nia Thomas o glwb San Ishmael yn gyntaf yn yr adran o dan 18. Llongyfarchiadu mawr iddi. Aelodau arall y tîm oedd Iwan Thomas, San Ishmael; Ifor Jones Llanllwni a Caryl Howells o glwb Llangadog.
Y pedwar aelod oedd yn cynrychioli’r sir yn y gystadleuaeth yma oedd William Griffiths a Aled Owens, y ddau o glwb San Clêr, Sion Roberts o glwb Llangadog a Anwen Jones o glwb Llanllwni. Da iawn i’r pedwar am gystadlu mewn cystadleuaeth safonol.
Sionedd Howells o glwb Llanllwni oedd yn cynrychioli’r sir yn y gystadleaeth hon. Llongyfarchiadau mawr am ddod yn gydradd 4ydd, allan o ddeddeg ymgeisydd.
Ar ôl dau ddydd o gystadlu brwd, llongyfarchiadu i holl aelodau’r Sir am eu ymdrech gwych.