Cynhaliwyd cystadleuaeth Pantomeim Cymraeg a Saesneg C.Ff.I Sir Gâr yn Neuadd y Gwendraeth yn ddiweddar. Bu pedair noson o gystadlu brwd gydag un Clwb yn cystadlu yn y Pantomeim Saesneg a naw Clwb yn y Pantomeim Cymraeg.
C.Ff.I Llanymddyfri aeth a’r cwpan yn yr adran Saesneg gyda’i pherfformiad o “The Physicians Book”. Yn yr Adran Gymraeg, C.Ff.I Penybont daeth i’r brig gyda’i pherfformiad o “Pwrs y Penglog”, gyda C.Ff.I Capel Iwan yn ail, a C.Ff.I Llangadog yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr i’r holl Glybiau am berfformiadau gwych.
Fe aeth y gwobrau am yr unigolion gorau yn yr Adran Gymraeg a’r Saesneg i’r canlynol:
Perfformiwr gorau 18 oed neu’n iau: Dion Davies, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Perfformwraig orau 18 oed neu’n iau: Fflur Richards, C.Ff.I San Ishmael
Perfformiwr gorau 26 oed neu’n iau: Dafydd Evans, C.Ff.I San Ishmael
Perfformwraig orau 26 oed neu’n iau: Sian Williams, C.Ff.I Llangadog
Cynhyrchydd Gorau: Dai Baker, C.Ff.I Penybont
Fe fydd C.Ff.I Llanymddyfri a Phenybont yn cynrychioli Sir Gâr yn rownd derfynol y gystadleuaeth Pantomeim ar lefel Cymru. Pob lwc iddynt.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’n beirniaid sef Mr Delme Harries am eu gwaith yn ystod yr wythnos. Diolch hefyd i bawb fuodd yn cynorthwyo yn ystod yr wythnos a diolch arbennig i Dafydd Lloyd George a Nia Thomas a fu’n gweithio’n ddiwyd wrth y golau a’r sain. Diolch arbennig hefyd i’r oll fuodd yn helpu gyda’r parcio, yn y drws, gwerthu raffl a Swyddogion y Sir am fod yng ngofal y siop yn ogystal â chyflwyno’r pedair noson.
Ni fyddai’r wythnos wedi bod yn bosib heb ein noddwyr sef Cyngor Sir Gaerfyrddin a hefyd i Undeb Amaethwyr Cymru am noddi’r gwobrau.
Aelod Iau ac Hŷn y Flwyddyn
Yn ogystal â’r Pantomeim, fe gyhoeddwyd Aelod Iau a Hŷn newydd C.Ff.I Sir Gâr am y flwyddyn sydd i’w ddod.
Heledd Mai Jones, o Glwb C.Ff.I Dyffryn Tywi wnaeth dderbyn yr anrhydedd o fod yn Aelod Iau C.Ff.I Sir Gâr am 2017/18. Mae Heledd wedi bod yn Aelod gweithgar o’i Chlwb Dyffryn Tywi ac eleni yn ysgrifennydd ar y Clwb.
Aeth y teitl Aelod Hŷn y Flwyddyn i Siân Williams o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangadog. Mae Siân wedi bod yn Aelod gweithgar gyda’i Chlwb gan dal sawl swydd o fewn y Clwb ac eleni hi yw dirprwy llysgenhades y Sir hefyd.
Pob lwc i’r ddwy am y flwyddyn sydd i ddod.