(WELSH ONLY) Hanes Ffederasiwn C.Ff.I. Sir Gaerfyrddin (Allan o Mudiad Clybiau Ffermwyr Ieuainc Cymru 1929-1982 gan Elonwy Davies) Gan Mrs D.T.Davies a Miss Elonwy Davies

Ar ddechrau’r pedwardegau y daeth Mudiad y Ffermwyr Ieuainc i amlygrwydd go iawn yng Nghaerfyrddin, pan ddechreuodd yr ieuenctid ddangos diddordeb mewn bod yn aelodau o fudiad ieuenctid cydnabyddiedig, ar waethaf effeithiau’r Ail Ryfel Byd. Dyma’r cyfnod y dechreuwyd trefnu gweithgareddau a chystadlaethau ar gyfer pobl yr ardaloedd gwledig. Yn dilyn y patrwm Cenedlaethol yr oedd ‘Clybiau Magu Lloi’ mewn bodolaeth yn y Sir, ers tro, ond bu’n rhaid aros tan 1936/37 nes gweld ffurfio’r clwb cyntaf, a hynny ym mhlwyf St Ishmael dan gyfarwyddyd Y Capten E. M. Stephens, Coedybrain, Glanyfferi. Trwy gydweithredu ag aelodau staff Sefydliad Amaethyddol Pibwrlwyd, sefydlwyd clybiau Dyffryn Tywi a San Clêr yn ystod tymor 1937/38. Wrth wylio llwyddiant y clybiau hyn, daeth athrawon, ffermwyr blaenllaw a chrefftwyr i’r rhengoedd, ac o ganlyniad ychwanegwyd C.FF.I. Llanycrwys a Dyffryn Cothi at y rhestr. Rhaid yw enwi tri person, am eu gwaith caled yn gosod y sylfeini mewn cyfnod mor anodd, sef Mr E. O. James, Hyfforddwr Amaethyddol y Sir ym Mhibwrlwyd; Y Parch A. J. Jones, Llangynnog a Miss Mary K. Davies, Caerfyrddin, ac wrth gwrs ni ellir anwybyddu cyfraniad gwerthfawr Pwyllgor Amaethyddol Rhyfel y Sir.

                Cyfyngwyd ar weithgareddau’r pedwardegau cynnar i ymrysonau aredig, a chystadlaethau mewn sioeau amaethyddol lleol. Yr oedd Mudiad y Groes Goch yn galw am gymorth ariannol, a threfnwyd nifer o weithgareddau i’w cynorthwyo. Gwahoddwyd un cynrychiolydd o bob Sir i gyfarfod yn Aberystwyth yn ystod 1942, er mwyn ceisio ffurfio Pwyllgor i drafod materion ar lefel Cymru. Dyma ddechrau Pwyllgor Cymru fel y’i gelwir heddiw, a gyfarfu am y tro cyntaf yn 1943. Cynrychiolydd swyddogol Sir Gaerfyrddin ym 1942 oedd Mr R. P. Morgan, N.D.A., Nantgaredig.

                Yr oedd nifer y clybiau o fewn y Sir wedi tyfu i ddeg ar hugain erbyn diwedd 1943. Cynhaliwyd y Rali flynyddol gyntaf ar dir Pibwrlwyd ar 18fed o Fedi 1943. Y buddugwyr ar ddiwedd diwrnod llwyddiannus o gystadlu oedd C.FF.I. San Pedr, ac i brofi eu medrusrwydd, ail gipiwyd y brif anrhydedd y flwyddyn ganlynol. Clwb San Pedr hefyd a enillodd y wobr am y clwb newydd gorau ym 1943.

                Tyfodd nifer y clybiau i un ar bymtheg ar hugain, a nifer yr aelodau o fewn y Sir wedi cyrraedd 1968 erbyn 1944, gan wneud Sir Gaerfyrddin yr ail Sir o ran aelodaeth yng Nghymru. Ni fuasai’r fath lwyddiant wedi bod yn bosibl heb gymorth oddi wrth y Cyngor Sir. Bu’r cymhorthdal ariannol a oedd yn cynyddu’n flynyddol, a’r caniatâd parod i gynnal cyfarfodydd ac amrywiol weithgareddau yn yr ysgolion yn bwysig iawn.

                Gan fod y llwyddiant ar lefel y clybiau wedi bod mor nodedig, tyfodd y galw am Ffederasiwn Sirol i gysylltu’r gwahanol weithgareddau ac i annog mwy o’r ardaloedd gwledig i ymuno â’r Mudiad. Gwireddwyd y freuddwyd ym 1944, a’r Capten E. M. Stephens oedd Cadeirydd cyntaf Ffederasiwn C.FF.I. Sir Gaerfyrddin, tra yr oedd Y Cyrnol Delme Davies Evans wedi’i anrhydeddu â’r llywyddiaeth. O fewn y flwyddyn Delme Davies Evans oedd y Cadeirydd ac E. M. Stephens yn Lywydd.

                Y cam nesaf oedd dewis Trefnydd Sirol llawn-amser i fod yn gyfrifol am yr holl weithgareddau, ac ym mis Ionawr, 1946 derbyniodd is-gapten o’r awyrlu, sef Brian Harries y swydd. Ef oedd y Trefnydd llawn amser cyntaf i’w apwyntio trwy Gymru gyfan, ond oherwydd amodau’r Awyrlu aeth tri mis heibio cyn y’i rhyddhawyd i ddechrau yn ei swydd newydd ar ddydd Llun, Ebrill 17eg, 1946. Felly cofir am Mr Jenkin Jones, Ceredigion fel y Trefnydd Sirol cyntaf i ymgymryd â’i ddyletswyddau. Yr oedd swyddfa C.FF.I. Caerfyrddin mewn ystafell fechan iawn, gerllaw y labordy llaeth y tu cefn i Swyddfa’r Sir yng Nghaerfyrddin. Yr oedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf bod yr adnoddau yno yn gwbwl anfoddhaol, ac ymhen deuddeng mis, symudwyd i ystafell a oedd yn rhan o adeilad y Carmarthen Journal. Bodlonwyd ar fod yno am chwe mis pellach, cyn i’r Cyrnol Delme Davies Evans a Mr H. Jones-Davies (y Llywydd) sicrhau dwy ystafell yn gartref parhaol i’r Mudiad ar lawr uchaf NapierHouse, Heol Spillman. Yr oedd yr adeilad hwn yn un delfrydol, yn enwedig gan fod Pwyllgor Gwaith a Phwyllgor Cyllid y Sir a fu’n cyfarfod yn ‘stafelloedd pwyllgora, Neuadd y Sir, yn cael defnyddio adnoddau Pwyllgor Amaethyddol y Sir, hefyd yn Napier House. Wrth i nifer y clybiau gynyddu’n sylweddol, cynhaliwyd Pwyllgor Gwaith y Sir yn adeilad y Y.M.C.A Caerfyrddin.

                Yr oedd un ar ddeg ar hugain o glybiau, ac un clwb ysgol o fewn y Sir ar ddechrau tymor Mr Brian Harries. Bu aelodau ifanc ‘Cartref Cheshire’, Llanybri yn negeswyr ffyddlon yn raliau cyntaf y Sir. Cynhaliwyd y rali ar y parc yng Nghaerfyrddin am y tro cyntaf ym 1947, a symudwyd rali 1949 allan o gyffuniau Caerfyrddin, i Landeilo trwy garedigrwydd Mr Llewelyn Thomas, Fferm Brynwgan. Yn anffodus, cofir am y rali hon, oherwydd i hwrdd ddianc o’i ffald a rhedeg yn syth i gyfeiriad gwraig y Llywydd ond wrth lwc, ar wahân i ddioddef o sioc, nid oedd Mrs H.Jones-Davies fawr gwaeth. O’r cychwyn cyntaf yr oedd y raliau yn boblogaidd iawn ymhlith y cyhoedd a’r aelodau; cafwyd dau ymweliad oddi wrth yr Uwchgapten M. Miles, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Cenedlaethol C.FF.I. Gwelodd Mr Kenneth Savage, Swyddog Cyswllt y Mudiad Cenedlaethol ei ffordd yn glir i ddod i dair o raliau Sir Gâr, a gwynebau cyfarwydd eraill, yn eu tro, oedd Miss Jane E. Davies, Swyddog Cyswllt De Cymru, trefnyddion Ceredigion, Penfro, Brycheiniog a Maesyfed, Meirionnydd a Mynwy. Y mae’r traddodiad o wahodd Swyddogion y Mudiad Cenedlaethol i Rali Caerfyrddin yn parhau, oherwydd y pwysigrwydd a roddir ar y cyfle i’r aelod cyffredin gyfarfod â’r arweinwyr.

                Ar waethaf y cyfraniadau oddi wrth y gwahanol glybiau, nid oedd sefyllfa ariannol Ffederasiwn Caerfyrddin yn rhy lewyrchus. Cyfetholwyd Capten Ithel Thomas, Y.H.; Mr Iorwerth Howells, B.A., Ll.B., (Y Cyfarwyddwr Addysg) a’r Uwchgapten D. Gwyn Jones, Swyddog Ieuenctid y Sir, yn aelodau o’r pwyllgor gwaith. O ganlyniad i’w hymdrechion hwy, y ffermwyr o blith y Cynghorwyr Sir, Swyddogion y Ffederasiwn, y Pwyllgor Ymgynghorol a’r rhaglen ddiddorol yn llawn o weithgareddau’r clybiau a’r Sir, y derbyniwyd cydnabyddiaeth oddi wrth yr Awdurdod Addysg Sirol. Yr oedd cymhorthdal ariannol 1947 yn £210, gan gynyddu’n raddol i £900 ym 1948 gan gyrraedd £3,000 ym 1953. Wrth gydnabod y cyfraniadau hyn, ni ddylid anwybyddu cymorth Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar hyd yr amser. Bu eu cymorth ariannol ac ymarferol, cyngor ac arweiniad yn gaffaeliad mawr na ellir ei ddiystyru.

                Yr oedd hanner cant a thri o glybiau mewn bodolaeth ym 1950, gan gynnwys ‘Clwb Cartref Cheshire’ a dau glwb newydd eu sefydlu yn ysgolion Gramadeg Rhydaman a Chaerfyrddin. Gan fod nifer y clybiau wedi cynyddu cymaint, penodwyd Mr Howell Evans, Fferm y Glogue, Llangynnog i gynorthwyo’r Trefnydd Sir ar faterion gweinyddol ac i ymweld â’r clybiau fin nos. Fe’i olynwyd gan Mr Graham Davies, ac o fewn chwe mis, yn weithiwr rhan amser.

                Cyfanswm cymorthdal Kellog Mudiad Cenedlaethol C.FF.I. Sir Gaerfyrddin ym 1953 oedd £250. Dyma’r Flwyddyn yr ymddiswyddodd y Trefnydd Mr Brian Harries, ar ôl cyfnod o saith mlynedd yn arloesi. Yn ddiweddarach ym 1953 fe’i olynwyd i’r swydd bwysig hon gan Miss Winifred Phillips o Fanceinion.

                Gwelodd Blwyddlyfr cyntaf Ffederasiwn C.FF.I. Caerfyrddin olau dydd ym 1954. O safbwynt ymgais gyntaf yr oedd yn gyhoeddiad uchelgeisiol iawn, er bod y clawr yn un siomedig. Yr oedd Mr W. C. Gale, cyn-gadeirydd y Sir, wedi cynllunio’r clawr yn ofalus, ond ymddangosodd y blwyddlyfr gan hysbysebu tŷ gwair gwag. Nid oedd y swyddogion yn rhy siomedig, gan fod cyfoedd o ddeunydd o fewn y cloriau. O’r cyfnod hwn y daeth yr ychydig benillion yma:

                Hen barchus swydd y tadau er dyddiau Eden gynt

                Ddilynwn hyd y bryniau ar waetha’r glaw a’r gwynt,

                Fe daflwn hâd i’r caeau a’u trin â thyner law

                A chasglwn gynaeafau sy’n cadw newyn draw.

                Cydweithio wnawn â natur a phryder yn y fron

                Rhaid inni blygu’n ufudd i fynych droeon hon,

                Ond os bydd weithiau’n gwgu a dinistr yn eu hôl

                Daw hefyd yn ei gwenau a chynnydd yn ei chôl.

                Rhwng godro’r hwyr a gwely, mi weithiwn dros y clwb

                A thaflu eitha’n hegni i roi i’r Mudiad hwb,

                Cael profi bywyd llawnach a fydd yn wobr ddrud –

                A Ffederasiwn Myrddin y bennaf yn y byd.

                Hyd yma nodwyd y datblygiadau o fewn y Sir, ond rhaid peidio anghofio bod yr aelodau’n dechrau manteisio ar bob cyfle posibl i deithio tramor. Dwy enghraiff yn unig o’r cyfnod hwn oedd taith gyfnewid dau ddiwrnod ar bymtheg Mr Howell Evans, C.FF.I. San Cynog i’r Ffindir; a Mr Ivor Davies, C.FF.I. Dyffryn Tywi n cael ei ddewis fel aelod o dîm Prydain Fawr 1956, i gystadlu yn Jamaica yng nghystadleuaeth beirniadu gwartheg.

                Dechreuodd y clybiau deithio hefyd, ac ym 1957 teithiodd C.Ff.I. Dyffryn Cothi i Swydd Efrog; C.FF.I. Llangynnog i Dde Gorllwein Lloegr a C.FF.I. Myrddin yn cyfnewid gyda chlwb o Sir Gaerhirfryn.

                Yn ystod Mis Medi 1957, ymddiswyddodd Miss Winifred Phillips fel Trefnydd Sir yn dilyn ei hapwyntiad fel Ysgrifennydd Cyngor Cymuned Gwledig Brycheiniog. Bu’n gweithio dros Fudiad y Ffermwyr Ieuainc am bedair blynedd.

                Yr oedd y person nesaf i lanw’r swydd yn gyfarwydd iawn â’r gwaith, gan mai gadel Ffederasiwn Maldwyn wnaeth Mr Napier Williams i ymgymryd â’i ddyletswyddau ar Hydref 1af, 1957. Fel y dywedodd un aelod “Napier i Napier House!”

                Uchafbwynt 1955 i Miss Eirlys Morgan, C.FF.I. Hendy-gwyn-ar-dâf oedd cal ei dewis yn Dywysoges Laeth De Cymru, ac yn naturiol ddigon yr oedd ei chwpan yn llawn pan gafodd yr anrhydedd bellach o fod yn Frenhines Laeth Cymru a Lloegr. Dyma’r flwyddyn y trefnwyd Eisteddfod C.FF.I. y sir am y tro cyntaf, a honno’n un lwyddiannus dros ben, yn parhau tan ychydig wedi 3.30 y bore canlynol! Dewiswyd dau drefnydd gwirfoddol hefyd ym 1955, sef Mr Danny Davies a Mr Glynne Rees ac o ganlyniad aethpwyd ati i annog dau gant o aelodau newydd i ymuno â’r clybiau.

                Gyda dyfodiad degawd newydd, cafwyd nifer o newidiadau. Arferai C.FF.I. Llandeilo gynnal eu cyfarfodydd mewn ystafell gefn ger ystablau tafarndy’r ‘Railway’, ond pan ddaeth adeilad yr Ysgol Sul ar werth llwyddwyd i godi £250 i’w brynu. Bu’r aelodau’n brysur yn adnewyddu’r adeilad a chyn-gadeirydd y Sir, Mr W. C. Gale a gafodd yr anrhydedd o agor y cartref cyntaf i unrhyw glwb yn y Sir ei sicrhau.

                Llwyddodd aelodau uchelgeisiol Ffederasiwn Caerfyrddin i ennill mwyafrif o’r prif anrhydeddau ar hyd y blynyddoedd, ac yn y chwedegau daeth nifer ohonynt i’w rhan am y tro cyntaf. Aeth Betty Thomas i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Cyntaf Ewrob o’r Celfyddydau i G.FF.I. a Chlybiau 4h yn Landau, Kaiserlautern. Yr oedd tri o’r aelodau lleol yn cystadlu yng nghystadleuaeth Rhyngwladol Beirniadu Gwartheg Llaeth i G.FF.I., a’r buddugwyr ym 1963, oedd Trevor Phillips, Gareth Thomas a Colin Jenkins. Byddai rhestri’r holl fuddugoliaethau ym myd y siarad cyhoeddus yn llanw’r gyfrol, ond rhaid enwi un o’r timau cyntaf o Gaerfyrddin i deithio i Goleg Gyfforddi Exeter a chystadlu yn enw Cymru sef – Brychan Prydderch, C.FF.I. Llandeilo; Bethan Richards, C.FF.I. Cilycwm, a Tom Williams, C.FF.I. Llandeilo. Teithiodd Selwyn Evans i wlad Israel, ac ers iddo ddychwelyd llwyddodd i ennill bron pob anrhydedd o fewn y Sir a Chymru. Mewn cystadleuaeth Ryngwladol i aelodau C.FF.I. yn ymwneud â ffowls, yn Sioe Frenhinol Ulster, yn Belfast ym 1964, daeth buddugoliaeth i Gymru am y tro cyntaf. Yr un aelod o Gaerfyrddin oedd Heulwen David, a chafodd y tîm eu hyfforddi’n drylwyr iawn gan Mr a Mrs D. T. Davies, Gronwy, Caerfyrddin.

                Bu gweld Mr Napier Williams yn gadael Caerfyrddin yn golled fawr i’r Mudad ond ymfalchiai’r aelodau iddo gael ei benodi yn Swyddog Ymgynghorol y Ffederasiwn Cenedlaethol yng Nghymru – swydd a oedd o fewn cyrraedd gŵr mor alluog yn ei faes. Tua canol haf 1964 y cychwynodd Miss Rhiannon Howell ar y gwaith fel Trefnydd C.FF.I. Ffederasiwn Caerfyrddin.

                Bu cryn drafod ar lefel Cymru ynglŷn a chyflwyno Tlws Coffa R. L. Jones, cyn penderfynu ar gystadleuaeth Ffermwr Ieuainc y Flwyddyn. (Un bachgen ac un ferch yn flynyddol.) Un o aelodau disgleiriaf Sir Gaerfyrddin oedd y cyntaf i rannu’r anrhydedd hon, sef Mr Arwyn Richards o G.FF.I. Cilycwm. Yr oedd ef eisoes wedi ennill mewn cystadleuaeth yn Sioe Frenhinol Efrog, ac ymhen y flwyddyn daeth y cyfle o fod yn Gadeirydd Cymru i’w ran. Yr oedd 1966 yn flwyddyn i’w chofio i Miss Mair Evans o G.FF.I. Llanllwni hefyd, gan mai hi oedd yr aelod cyntaf o’r Sir i dderbyn Gwobr Aur Dug Caeredin. Cafodd Mr Wyn Thomas, C.FF.I Dyffryn Cothi fynd i Bwlgaria gyda’r wybodaeth mai ef oedd Ffermwr Ieuainc cyntaf o Gymru i deithio yno. Ac ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1966, y symudodd Swyddfa’r Ffermwyr Ieuainc i 2, Stryd y Cei, a’r adeilad wedi ei osod ar rent o £130 y flwyddyn a’r dreth am hanner blwyddyn yn £34-9-0d.

                Ers iddi symud i weithio yng Nghaerfyrddin, bu Miss Karen Gynn yn cystadlu yn enw C.FF.I. San Pedr a hi oedd y buddugol yng nghystadleuaeth Tywysoges Laeth De Cymru 1967.

                Yn ystod tymor 1968/69 yr oedd rhyf yr aelodau o fewn y Sir yn 1142. Ac yn y flwyddyn 1969 y sicrhawyd lle i’r Swyddfa Sir, yn Nhŷ Amaeth, Lle Cambrian, Caerfyrddin ac yr oedd hyn yn welliant mawr ar drefniadau’r gorffennol ac yn gyfle i’r Mudiad weithredu’n fwy effeithiol. Gyda diwedd y chwedegau dychwelodd Tlws Coffa R. L. Jones i’r Sir yn nwylo Mr Arwyn Davies o G.FF.I. Llandeilo, ac hefyd ym 1969 penodwyd Mr Selwyn Ecans yn Gadeirydd Cymru. Y mae’n dda nodi bod y llwyddiant wedi dilyn yr aelodau i ddegawd arall, pan nodwyd bod 1208 o aelodau gan ddeunaw ar hugain o glybiau’r Sir yn ystod tymor 1970/71. O gymharu’r ffigurau hyn â gweddill Cymru a Lloegr – yr oedd Caerfyrddin yn bedwaredd ar y rhestr yn y cyfnod hwn.

                Dewiswyd Miss Ann Davies, C.FF.I. Dyffryn Cothi yn Dywysoges Laeth De Cymru am 1971, a’r flwyddyn ganlynol aeth yr anrhydedd i un arall o aelodau’r Sir, sef Miss Margaret Morris, C.FF.I. Llandeilo. Fel popeth da arall, daeth cyfnod Miss Rhainnon Howell, fel Trefnydd Sir i ben. Bu cael ei harweiniad, ei phrofiad a’i medrusrwydd am saith mlynedd yn gaffaeliad mawr. Er colli Rhiannon, adferwyd ffydd yr aelodau gyda’r newydd mai Mr Selwyn Evans, cyn-aelod yng Nghaerfyrddin a chyn-gadeirydd Cymru oedd y Trefnydd newydd.

                Croesawyd Cynhadledd flynyddol Cymru i Gaerfyrddin ym 1972, pan oedd Mr D. C. Phillips yn Lywydd C.FF.I. Cymru. Lleolwyd y gynhadledd yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg, a’r thema a ddewiswyd ar gyfer y cynrychiolwyr oedd ‘Ffermwyr Ieuainc a Thwristiaeth yng Nghymru.’ Llawer mwy egniol oedd ymdrech aelodau Clwb San Clêr yn teithio 235 milltir ar dractor o San Clêr i Earls Court yn Llundain. Cymerodd y daith tair awr ar theg a chwarter i’w chwblhau ac fel canlyniad codwyd £420.

                Daeth y rali flynyddol yn ôl i’r farchnad yng Ngharfyrddun ym 1973, ar ôl pedaid mlynedd yn y parc yng Nghaerfyrddin. Cyrhaeoddodd Mr Hugh Richards, C.FF.I. Llanelli y brig ar lefel Cymru, ac er bod ei glwb yn un cymharol fach, anelodd yn ychel, derbyniodd pob her a rei ffordd i gadair Cymru, ac y mae’r Ffederasiwn yn dal i elwa o’i brofiad.

                Pan gyrhaeddodd yr aelodaeth 1856 ym 1975 yr oedd y golygon wedi’u gosod ar gael 2,000 o aelodau.

                Ym 1975, gwnaeth Mr D. C. Phillips ymddeol o’i ddyletswyddau fel Llywydd ac fe’i olynwyd gan ŵr a oedd yn enw cyfarwydd iawn o fewn y byd amaethyddol, sef Mr Dyfrig Williams, Y Grove, San Clêr.

                Anodd iawn yw dethol enghreifftiau o uchafbwyntiau’r cyfnod, gan fod cynifer i’w rhestri, ond diwrnod cofiadwy oedd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg a Saesneg Cymru yn Felinfach ym 1976. Allan o’r chwe cystadleuaeth, ennillwyd pum gwobr gyntaf ac un ail wobr. O’r cychwyn yr oedd holl aelodau’n sylweddoli mai cystadlu a gwneud y gorau sy’n bwysig, ac mai bonws yw ennill.

                Trwy wneud ei orau bob amser i’r Mudiad yr etholwyd Mr Hugh Richards yn Gadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ieuainc Cymru a Lloegr, gan ddangos bod anrhydedd o’r fath o fewn cyrraedd aelod o Gaerfyrddin.

                Cafwyd Trefnydd Sirol newydd eto ym 1977, ym mherson Miss Margaret Bassett. O fewn chwe mis penderfynodd bod y newid o’i swydd flaenorol yn Llundain yn ormod, ac unwaith eto yr oedd Ffederasiwn Caerfyrddin yn hysbysebu am drefnydd. Yr wyneb newydd i’r swydd, ond wyneb cyfarwydd fel cyn-aelod o G.FF.I Cwmann, Miss Eirios Russell, sef Mrs Eirios Thomas erbyn hyn. Eirios fyddai’r person olaf i dderbyn y clod, ond ers iddi gychwyn a rei dyletswyddau, cyflwynwyd Tlws Pencampwriaeth y Western Mail i Gaerfyrddin DAIR gwaith. Ers cyflwyno’r Tlws am y tro cyntaf ym 1972, daeth Ffederasiwn Caerfyrddin yn fuddugol ym 1974, 1978, 1979 ac 1981. Y mae’r aelodau’n gwerthfawrogi pob ymdrech gan Mrs Eirios Thomas, Mirr Eirlys Jones, Staff a swyddogion y Mudiad er mwyn sicrhau’r dyfodol a bod hwnnw yn un llwyddiannus.

                Wrth gychwyn y fenter o Eisteddfod Ddwy-ieithog C.FF.I. Cymru, daeth y cyntaf i Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ym 1977, ac edrychwn ymlaen i groesawu’r eisteddfod yn ôl eto ymhen amser.

                Pigion o galendar 1978 oedd buddugoliaeth tri o’r bechgyn lleol, aelodau o dîm Rheolaeth Fferm Cymru, yn ennill Ysgoloriaeth Deithio Undeb Amaethwyr Cymru, sef Robert Morgan, Meredydd David a Richard Cole ac yn cael y cyfle i dreulio pythefnos yn yr Eidal a’r Almaen. Daeth criw o 40 o Almaenwyr i Gaerfyrddin yn ystod mis Awst 1978, a chan mai taith gyfnewid oedd hon, dychwelodd tua’r un nifer i’r Almaen. Rhaid hefyd talu teyrngerd i dri o aelodau C.FF.I. San Pedr am ennill y gystadleuaeth Genedlaethol Asesu’r Pridd, a Hugh Davies, Derrick Davies a Phillip Davies yn llwyddo unwaith et oar lefel Cymru ym 1980.

                Ers blynyddoedd cysylltwyd enw Mr Dewi Thomas, Brechfa, â nifer o elusennau Sirol ac fe gafodd ei anrhydeddu am ei gyfraniadau cyson i’r byd amaethyddol trwy ei ethol yn Lywydd y Sir, i olynu Mr Dyfrig Williams a gyfrannodd o 1976 – 1979. Wrth gyfeirioat Mr Williams, ef oedd Llywydd Cymdeithas Gwarttheg Friesian Prydain 1981, a’r Cymru Cymraeg cyntaf id dal y swydd bwysig hon. Gyda balchder y derbyniwyd y newyddion bod Miss Ann Davies, C.FF.I. Dyffryn Cothi wedi’i phenodi’n Swyddog Datblygu Cymru ar ôl cyfnod yn Drefnydd Sirol ym Maldwyn. Gobeithio y bydd ei dyddiau fel aelod yn Sir Gâr o fudd iddi yn y dyfodol.

                Daeth newid et oi ran y Sir yn ystod rali 1979, i fod yn fanwl gywir, ni chynhaliwyd Rali’r flwyddyn honno, ond yn hytrach Gŵyl lwyddiannus dros ben. Gan fod y diwrnod hwn o weithgareddau wedi datblygu cymaint ers dydiau’r rali, penderfynwyd bod y term Gŵyl yn llawer mwy addas i ddisgrifio’r cystadlaethau a naws y dydd, ac erys y Dydd Gŵyl.

                Yr oedd yn anodd meddwl y gallai Ffederasiwn mor lwyddiannus wella yn ystod yr wythdegau. Cafwyd cychwyn godidog pan etholwyd Mr Hywel Griffiths, C.FF.I. Llandybie yn Gadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn C.FF.I. Cymru a Lloegr 1980. Ef oedd y person cyntaf erioed i fod yn gadeirydd Cymru a chadeirydd Cenedlaethol ar yr un pryd. Gweithiodd Hywel yn ddiflino dros y Mudiad ac yr oedd yn haeddu’r anrhydedd fel cydnabyddiaeth am ei holl wait her lles yr aelodau eraill. Er bod cyfnod ei gadeiryddiaeth drosodd, cofir am ei hawddgarwch a’i ddidwylledd gan aelodau Cymru a Lloegr am flynyddoedd lawer. Ef hefyd oedd Cadeirydd Is-bwyllgor y Cynlluniau Etifeddiaeth yn ddiweddar.

                Mae mwy a mwy o aelodau Sir Gâr yn ennill enwogrwydd ar lefel Cymru, gan gynnwys yn ddiweddar:

                John Phillips, C.FF.I. Llanwinio – Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cymru ac Is-gadeirydd Pwyllgor Cymru

                Elfyn Richards, C.FF.I. Llanddarog – Cadeirydd Pwyllgor Cystadlaethau Cymru

                Stella Jones, C.FF.I. Capel Iwan – Cadeirydd Pwyllgor Merched Cymru

                Elonwy Davies, C.FF.I. Dyffryn Tywi – Is-gadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Cymru

                Bu ymateb y Sir i gynlluniau diogelu Etifeddiaeth Cymru yn eithaf boddhaol a chyflwynwyd tystysgrif am y canlynol:

                C.FF.I. Cilycwm – Cofrestr o nodau clustiau defaid lleol

                Elonwy Davies, C.FF.I. Dyffryn Tywi – Hanes Mudiad y Ffermwyr Ieuainc yng Nghymru

                C.FF.I Dyffryn Tywi – Casgliad o Enwau Caeau’r Dyffryn

                Eirlys Jones, C.FF.I. Cynwyl Elfed – Casgliad o Hen Feddygyniaethau

                Meryl Evans, C.FF.I. Llandybie – Hanes pentref a phlwyf Betws

Dyma’r cynllun a ddyfarnwyd fel y cyfraniad gorau i ddiogelu etifeddiaeth Cymru, a derbyniodd Meryl, Dlws Coffa Elwyn Griffiths oddi wrth Syr Goronwy Daniel yn ystod Cynhadledd Flynyddol 1981.

                Merch arall o’r Sir, Miss Sian Stroud, C.FF.I. Llangadog oedd Tywysoges Laeth De Cymru 1980.

                Yn ystod 1981, ymwelodd Homer Roy Hughes, Trwlew, Patagonia â’r Ffederasiwn am dri mis. Pwyllgor Rhyngwladol y Sir fu’n codi arian a chwilio am noddwyr i glirio cost y daith o 24,000 milltir. Mae teithiau o’r fath yn bwysig a gobeithir gweld aelod o’r Sir yn cael cyfle i dreulio cyfnod ym Mhatagonia.

                Mae cynllun y Seren yn bodoli yn y Sir a dwy ferch hawddgar, sef Miss Eirlys Jones, C.FF.I. Cynwyl Elfed a Miss Carol Evans, C.FF.I. Dyffryn Tywi wedi derby neu Seren Efydd eisoes.

                Mae holl aelodau Caerfyrddin yn ymwybodol bod yn rhaid iddynt weithio i sicrhau llwyddiant y Ffederasiwn, gall hyn olygu gwaith caled, ymdrech a hwyl. Ymdrech ddiweddaraf C.FF.I. San Clêr oedd gwthio cadair olwyn Johnny Phillips o San Clêr i Gasnewydd i gynhadledd Cymru 1981. Llwyddwyd i godi’r swm aruthrol o £5250 tuag at Gartref Coombe Chesire, y swm uchaf erioed i’w gasglu gan unrhyw glwb o Gymru a Lloegr at achosion da.

                Gwobr pob aelod yw cael bod yn aelod o Ffederasiwn Caerfyrddin sy’n mynd ymlaen o nerth i nerth.

Latest News