Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn, 27ain o Ionawr yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cafwyd gwledd o gystadlu mewn pedair adran wahanol gyda nifer fawr o glybiau’r Sir yn cystadlu. Diolch yn fawr iawn i Ysgol Gynradd Nantgaredig am adael i ni ddefnyddio’r Ysgol, diolch hefyd i’r stiwardiaid am sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r holl hyfforddwyr am roi eu hamser i hyfforddi’r aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl feirniaid am eu gwaith gwych yn ystod y dydd.
Adran Ddarllen
Mrs Meryl Tomos cafwyd y dasg o feirniadu 10 tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14. Dyma’r canlyniad:
Tîm buddugol:
C.Ff.I Penybont Gwyn – Caeo Pryce, Anwen Phillips a Lowri Powell
Unigolyn Orau:
Gwenno Roberts, C.Ff.I Llanfynydd
Adran Iau
Yng nghystadleuaeth yr adran iau i aelodau o dan 16, Mrs Bethan Price oedd ar dasg, gyda 12 tîm yn cystadlu mewn cystadleuaeth o’r safon uchel. Dyma’r canlyniadau:
Cwpan Teulu Pantyffynnon i’r Tîm buddugol:
C.Ff.I Llanfynydd – Sioned Raymond, Lois Campbell, ac Efa Jones.
Cwpan Teulu Ffosyffin am yr Unigolyn orau:
Lois Campbell, C.Ff.I Llanfynydd
Adran Ganol
Mrs Mererid Jones oedd yng ngofal yr adran Ganol. 4 tîm oedd yn y gystadleuaeth a dyma’r canlyniadau:
Cwpan Alun James Ysg. i’r Tîm Buddugol:
C.Ff.I Llanllwni – Sioned Howells, Sioned Bowen a Owain Davies
Tarian Mr Emyr Williams am yr unigolyn Gorau:
Owain Davies, C.Ff.I Llanllwni
Adran Hŷn
Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng 6 tîm cryf iawn. Miss Mared Rand Jones oedd gyda’r dasg o feirniadu a dyma’r canlyniadau:
Cwpan y Diweddar Henadur S O Thomas I’r Tîm Buddugol:
Tîm Swyddfa – Ceris James (Penybont) Gwenann Jones, Angharad Thomas, Heledd Jones (Dyffryn Tywi)
Cwpan Pat Davies I’r Unigolyn Orau:
Heledd Jones, C.Ff.I Dyffryn Tywi