Yn ddiweddar mae Swyddogion y Mudiad yn y Sir wedi bod wrthi’n codi arian ar gyfer elusen sy’n agos iawn i’n calonnau yn Sir Gâr sef y Gymdeithas CGD sef elusen sy’n codi arian ar gyfer unigolion sy’n dioddef o afiechyd ‘chronic granulomatous’. Cyn y Nadolig, bu farw un o’n haelodau yn y Sir sef Nia Wyn Thomas oedd yn aelod yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Llangadog ac roedd y Swyddogion a’r Aelodau’n awyddus dros ben i godi arian er cof am aelod gwerthfawr a brwdfrydig.
Ar Nos Sadwrn, 7fed Ebrill 2018 cynhaliodd y Llysgenhadon, Gwenann Jones (Dyffryn Tywi), Siôn Evans (Llanllwni), Sian Williams (Llangadog) ac Aled Thomas (Dyffryn Cothi) noson o hwyl a gemau yng nghwmni’r cyflwynydd poblogaidd Tommo yn Neuadd Bronwydd. Daeth pob Clwb yn y Sir â thîm i gymryd rhan yn y gemau ar y noson a chafwyd noson wych o hwyl a gemau dwl. Braf oedd gweld y Neuadd yn llawn ac aelodau o ar draws Sir Gâr yn mwynhau’r cymdeithasu gan gofio pwrpas y noson hefyd.
Aeth Cadeirydd y Sir, Mared Williams ati i drefnu Raffl Fawreddog a chafwyd cyfraniadau hael gan gwmnïoedd lleol fel gwobrau. Diolch iddynt am eu haelioni a’u cefnogaeth. Cyhoeddwyd canlyniadau’r Raffl ar ddiwrnod y Rali flynyddol ym mis Mai a dyma’r rhai ffodus a dderbyniodd wobr. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.
Trefnwyd hefyd Cymanfa Ganu gan y Cadeirydd Sir, Mared Williams ar Nos Sul Mehefin 3ydd yng Nghapel Soar Tynewydd, Cil-y-cwm gydag eitemau gan aelodau o Fudiad C.Ff.I. Sir Gâr. Cafwyd neges bwrpasol gan Mr Peter Harries a Miss Sara Morgan oedd yn canu’r organ. Cafodd nifer o Swyddogion y Sir y cyfle i arwain y canu, felly cofiwch amdanynt os ydych chi’n chwilio am arweinydd y gân yn y dyfodol! Diolch i Mared Williams, Carys Thomas, Caryl Jones, Sian Elin Williams, Sian Williams, Heledd Jones ac Arwyn Davies. Roedd casgliad y noson yn cael ei rannu rhwng elusen y CGD Society a hefyd Cronfa Ffrindiau Ysbyty Llanymddyfri. Casglwyd swm arbennig ar y noson a diolch i bawb a fynychodd a chymrodd ran am noson arbennig a safonol.
Braf i’w cyhoeddi ein bod wedi codi dros £5000 o bunnoedd ar gyfer elusen y CGD Society ynghyd â £500 ar gyfer Cronfa Ysbyty Llanymddyfri. Diolch yn fawr iawn i’r holl gwmnïoedd, ffrindiau ac aelodau am bob rhodd ac am bob cefnogaeth a hefyd i deulu Nia am gefnogi’n digwyddiadau.
Rydym o hyd yn derbyn cyfraniadau, felly os hoffech gefnogi’r elusennau mae croeso i chi gysylltu â Swyddfa’r Sir am fwy o wybodaeth: 01267 237 693 neu sir.gar@yfc-wales.org.uk.