Eto eleni fu cystadlu brwd yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin yn Eisteddfod Sir Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ar nos Wener y 12fed, nos Wener 19eg a Dydd Sadwrn 20fed o Hydref. Ar ôl dwy noson a diwrnod o adloniant o safon uchel iawn – C.Ff.I Penybont cipiodd darian yr Eisteddfod am y pumed tro yn olynol. Llongyfarchiadau i’r clwb a hefyd i C.Ff.I Llanllwni am ddod yn ail a hefyd am ddod yn gyntaf yn yr adran waith cartref ac yn derbyn tarian Elonwy Phillips.
Roedd gwaith caled iawn o flaen ein beirniaid gyda’r holl gystadlu. Mae ein diolch yn mynd iddynt hwy i gyd am ei gwasanaeth. Fu Helen Wyn yn beirniadu ein hadran cerdd, Mari Grug yn y llefaru, Geraint ac Anna Lloyd yn yr Adran Ysgafn ac Anna hefyd yn beirniadu’r ddawns gyfoes, Myfanwy Rees yn y Dawnsio Gwerin a Dr Hywel Griffiths yn yr Adran Gwaith Cartref.
Ein llywyddion ar gyfer yr Eisteddfod eleni oedd Meryl James, Pengawse ar y nos Wener gyntaf, Dyfrig ac Eileen Davies, Gwndwn ar gyfer yr ail nos Wener, yna Mansel Charles, Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Dydd Sadwrn. Diolch yn fawr iddynt am ei geiriau pwrpasol o’r llwyfan ac am eu rhoddion hael tuag at gyllid y Mudiad yn Sir Gâr.
Bum yn ffodus iawn o gael Elin Rees yn gyfeilydd yn yr Eisteddfod eleni eto. Rydym yn diolch iddi am ei gwasanaeth a hefyd i’r unigolion arall fu’n cyfeilio i’r aelodau. Diolch hefyd i’r sawl fu’n arwain yn yr Eisteddfod eleni – Hefin Evans, Dylan Bowen, Carys Thomas, Mared Williams, Caryl Jones, Arwel Jones ac Iestyn Owen. Mae ein diolch i Simon Martin am fod yng ngofal y Cymorth Cyntaf. Diolch yn fawr hefyd i bawb oedd yn gweithio tu cefn llwyfan ac wrth y drws gyda Swyddogion a ffrindiau eraill y Mudiad.
Mae ein diolch yn fawr i’n cofiaduron oedd wrthi’n gofalu am y sgoriau. Diolch i Jane Morgan, Marian Thomas a hefyd i Llinos Jones fu hefyd wrthi yng ngofal y tystysgrifau. Diolch yn fawr hefyd i Deian Thomas a Dylan Bowen oedd wrthi yng ngofal y Sain a’r Golau.
Aeth y Goron eleni eto yn ôl i C.Ff.I Llanllwni ond y flwyddyn yma rydym yn llongyfarch Sioned Bowen a gipiodd y Goron a oedd yn rhoddedig gan ein Cadeirydd Sir Mared Williams. Creuwyd y Goron gan Luned Henry sy’n gyn-aelod o C.Ff.I Llangadog. Llongyfarchiadau hefyd i Carwen Richards, C.Ff.I Dyffryn Cothi am ennill y gadair dwy flynedd yn olynol. Roedd y gadair yn rhoddedig gan Mared Williams hefyd. Ruth Morgan, Cadeirydd C.Ff.I Llangadog a’i thad John Morgan creuwyd y Gadair. Diolch i bawb a chymrodd rhan yn y Seremoni yn enwedig i Arwyn Davies, Llywydd y Sir am redeg y seremoni yn hwylus iawn eleni eto.
Diolch i C.Ff.I Penybont am stiwardio dros yr Eisteddfod gyfan a diolch i Addysg Seren, All Pump Services a HB Enoch & Owen am noddi’r digwyddiad.
Dyma canlyniadau’r Eisteddfod:
Llwyfan
Sgets
1. C.Ff.I Capel-Arthne
2. C.Ff.I Llanllwni
3. C.Ff.I Dyffryn Cothi
Unawd Offerynnol
1. Daniel O’Callaghan, C.Ff.I Penybont
2. Dafydd Owen, C.Ff.I Llanddarog
3. Alpha Evans, C.Ff.I Cwmann
Unawd Alaw Werin
1. Elen Bowen, C.Ff.I Capel Iwan
2. Elin Fflur Jones, C.Ff.I Penybont
3. Elan Jones, C.Ff.I Cwmann
Stori a Sain
1. Carwyn Jones a Mared Evans, C.Ff.I Penybont
2. Nia Owens a Dafydd Davies, Cynwyl Elfed & Ioan Harries a Sion Davies, C.Ff.I Llannon
Ensemble Offerynnol
1. C.Ff.I Llanddarog
2. C.Ff.I Capel Iwan
3. C.Ff.I Dyffryn Tywi
Canu Emyn
1. Elen Bowen, C.Ff.I Capel Iwan
2. Owain Rowlands, C.Ff.I Llanfynydd
3. Sioned Howells, C.Ff.I Llanllwni
Dawnsio Gwerin
1. C.Ff.I Penybont
2. C.Ff.I Capel Iwan
3. C.Ff.I Cynwyl Elfed
Côr Cymysg
1. C.Ff.I Penybont
2. C.Ff.I Llanddarog
3. C.Ff.I Dyffryn Cothi / Llangadog & C.Ff.I Llanfynydd
Unawd 16 neu Iau
1. Bethan Evans, C.Ff.I Llanymyddyfri
2. Elan Jones, C.Ff.I Cwmann
3. Fflur Davies, C.Ff.I Llandeilo
Llefaru 18 neu Iau
1. Elan Jones, C.Ff.I Cwmann
2. Heledd Jones, C.Ff.I Dyffryn Tywi
3. Daniel O’Callaghan, C.Ff.I Penybont
Unawd 21 neu Iau
1. Owain Rowlands, C.Ff.I Llanfynydd
2. Lois Thomas, C.Ff.I Llanllwni
3. Hannah Richards, C.Ff.I Penybont
Llefaru 26 neu Iau
1. Alys John, C.Ff.I Hendy-Gwyn
2. Ffion Medi Rees, C.Ff.I Llanfynydd
Unawd 26 neu Iau
1. Carwen George, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Dawns
1. C.Ff.I Llannon
2. C.Ff.I Cwmann
3. C.Ff.I Dyffryn Cothi & C.Ff.I Dyffryn Tywi
Parti Llefaru
1. C.Ff.I Llanllwni
2. C.Ff.I Dyffryn Tywi
3. C.Ff.I Penybont
Meimio i Gerddoriaeth
1. C.Ff.I Capel Iwan
2. C.Ff.I Llanymddyfri
3. C.Ff.I Llanllwni
Deuawd
1. Elen Bowen a Mari Phillips, C.Ff.I Capel Iwan
2. Mari a Cadi James, C.Ff.I Llangadog
3. Fflur a Haf Davies, C.Ff.I Llandeilo
‘Stand Up’
1. Deian Thomas, C.Ff.I Dyffryn Cothi
2. Lleu Pryce, C.Ff.I Penybont
3. Owain Davies, C.Ff.I Llanllwni
Ensemble Lleisiol
1. C.Ff.I Capel Iwan
2. C.Ff.I Llangadog
3. C.Ff.I Llanddarog
Unawd Sioe Gerdd neu Ffilm
1. Owain Rowlands, C.Ff.I Llanfynydd
2. Elin Fflur Jones, C.Ff.I Penybont
3. Bethan Evans, C.Ff.I Llanymddyfri
Deuawd neu Driawd Doniol 26 neu Iau
1. Carwyn Jones, Jac Davies a Tomos Jameson, C.Ff.I Penybont
2. Ifor Jones, Hefin Jones, Siriol Howells, C.Ff.I Llanllwni
3. Eirwyn Richards a Deian Thomas, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Parti Unsain 26 neu Iau
1. C.Ff.I Penybont Bechgyn
2. C.Ff.I Penybont Merched
3. C.Ff.I Llangadog
Gwaith Cartref
Rhyddiaeth
1. Sioned Bowen, C.Ff.I Llanllwni
2. Mari Phillips, C.Ff.I Capel Iwan
3. Sioned Howells, C.Ff.I Llanllwni
Cerdd
1. Carwen Richards, C.Ff.I Dyffryn Cothi
2. Luned Jones, C.Ff.I Llanllwni
3. Daniel O’Callaghan, C.Ff.I Penybont & Ceri Davies, C.Ff.I Dyffryn Cothi
Cystadleuaeth i Aelodau 26 neu Iau
1. Mared Evans, C.Ff.I Penybont
2. Ruth Morgan, C.Ff.I Llangadog
3. Sioned Howells, C.Ff.I Llanllwni
Cystadleuaeth i Aelodau 21 neu Iau
1. Non Roberts, C.Ff.I Llangadog
2. Ceri Davies, C.Ff.I Dyffryn Cothi
3. Ella Solloway, C.Ff.I San Pedr
Cystadleuaeth i Aelodau 16 neu Iau
1. Ceris Howells, C.Ff.I Llanllwni
2. Lewis Thomas, C.Ff.I Llanllwni
3. Maia Morris, C.Ff.I San Pedr
Brawddeg 26 neu Iau
1. Mared Phillips, C.Ff.I Llanllwni
2. Caeo Pryce, C.Ff.I Penybont
3. Ifan Thomas, C.Ff.I Llanllwni & Siriol Howells, C.Ff.I Llanllwni
Ffotograffiaeth
1. Rhiannon Jones, C.Ff.I Dyffryn Tywi
2. Rhian Hughes, C.Ff.I Llanymddyfri & Gruffydd Jones, C.Ff.I Llanllwni
Limrig
1. Siriol Howells, C.Ff.I Llanllwni
2. Lynwen Mathias, C.Ff.I Dyffryn Cothi & Hannah Peach, C.Ff.I Dyffryn Tywi
Celf
1. Siriol Richards, C.Ff.I Llandeilo
2. Lowri Jones, C.Ff.I Dyffryn Tywi
3. Carys Morgan, C.Ff.I Llanfynydd
Cyfansoddi Cân
1. Hannah Richards, C.Ff.I Penybont
2. Daniel O’Callaghan, C.Ff.I Penybont
3. Mared Phillips, C.Ff.I Llanllwni & Lora Phillips, C.Ff.I San Ishmaels
Cywaith Clwb
1. C.Ff.I Llanymddyfri
2. Gwenno Aled, C.Ff.I Llandeilo & C.Ff.I Penybont