Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn, 26ain o Ionawr yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cafwyd gwledd o gystadlu mewn pedair adran wahanol gyda nifer fawr o glybiau’r Sir yn cystadlu. Diolch yn fawr iawn i Ysgol Gynradd Nantgaredig am adael i ni ddefnyddio’r Ysgol, diolch hefyd i’r stiwardiaid am sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r holl hyfforddwyr am roi o’i hamser i hyfforddi’r aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl feirniaid am eu gwaith gwych yn ystod y dydd.
Adran Ddarllen:
Mrs Enfys Evans cafwyd y dasg o feirniadu 8 tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14. Dyma’r canlyniadau:
Tîm buddugol:
C.Ff.I Llanfynydd – Gwenno Roberts, Tomos Roberts a Ffion Raymond.
Unigolyn Gorau:
Gwenno Roberts, C.Ff.I Llanfynydd
Adran Iau:
Yng nghystadleuaeth yr Adran Iau i aelodau dan 16, Mrs Enfys Hatcher Davies oedd â’r dasg o feirniadu, gyda 10 tîm yn cystadlu mewn cystadleuaeth o safon uchel. Dyma’r canlyniadau:
Cwpan Teulu Pantyffynnon i’r Tîm Buddugol:
C.Ff.I Llanfynydd – Betsan Campbell, Lois Cambell a Gwenno Roberts.
Cwpan Teulu Ffosyffin am yr Unigolyn Gorau:
Cerys Thomas, C.Ff.I Dyffryn Tywi
Adran Ganol:
Mr Hefin Jones oedd yng ngofal yr Adran Ganol. Roedd 8 tîm yn y gystadleuaeth yma a dyma’r canlyniadau:
Cwpan Alun James Ysg. i’r Tîm Buddugol:
C.Ff.I Penybont – Hannah Richards, Daniel O’Callaghan, Lleu Pryce a Cadi Evans.
Tarian Mr. Emyr Williams am yr Unigolyn Gorau:
Daniel O’Callaghan, C.Ff.I Penybont
Adran Hŷn:
Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng 6 tîm cryf iawn. Mr Wyn Thomas oedd gyda’r dasg o feirniadu a dyma’r canlyniadau:
Cwpan y diweddar Henadur S.O Thomas i’r Tîm Buddugol:
C.Ff.I Dyffryn Cothi – Carwen Richards, Sulwen Richards a Lynwen Mathias
Cwpan Pat Davies i’r Unigolyn Gorau:
Mared Evans, C.Ff.I Penybont