Eto eleni fu aelodau brwdfrydig o C.Ff.I Sir Gâr yn cystadlu trwy gydol yr wythnos mewn amryw o gystadleuthau yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. ‘Hwiangerddi’ oedd y thema eleni gyda sawl cystadleuaeth newydd wedi ei greu o gwmpas y thema yma.
Dyma canlyniadau’r Sir eleni:
Arddangosfa Ffederasiwn – 1af C.Ff.I Penybont
Cystadleuaeth yr Aelodau – 2il
Cneifio Defaid – 8fed Aled Thomas, C.Ff.I Dyffryn Cothi & Mark Harries, C.Ff.I Llandeilo
Canu – 5ed
Dawnsio – 2il C.Ff.I Penybont
Eitem i Gyfleu Hwiangerdd – =7fed Lowri Rees & Martha Sauro, C.Ff.I Llanelli
Arddangosfa Adloniant i Blant – 6ed C.Ff.I Llanllwni
Barnu Gwartheg Duon Cymreig – 4ydd
Gwisgo i Fyny – 10fed Rose Wilkinson & Menna Bennett, C.Ff.I Llanymddyfri
Barnu Defaid Mule Cymreig – 7fed
Tro ar Hwiangerdd – 2il C.Ff.I Llanllwni
Tynnu’r Gelyn
Sioe Ffasiwn – 2il C.Ff.I Llanfynydd
Gwaith Coed – 4ydd Deian Rees & Dafydd Davies, C.Ff.I Cynwyl Elfed
Palet wedi ei Ailgylchu – 2il Tomos Jones & Alwyn Evans, C.Ff.I Llanllwni
Gêm y Cenedlaethau – 7fed Elan Williams & Dylan Thomas, C.Ff.I Llanfynydd
Barnu Cobiau Cymreig – 1af
Ras Rwystr Dall – 10fed Sarah Howells & Emma Howells, C.Ff.I San Cler
Rygbi 7 bob Ochr – 5ed Tîm C.Ff.I Sir Gâr
Llyfr Lloffion – 2il Caryl Jones, C.Ff.I San Ishmael
Ar ddiwedd y cystadlu, fe ddaeth C.Ff.I Maesyfed yn 1af yn y cystadlaethau Barnu Stoc i gyd, gyda C.Ff.I Brycheiniog yn 2il a C.Ff.I Sir Gâr yn cipio’r 3ydd safle.
Ar ôl wythnos hwylus o gystadlu C.Ff.I Ceredigion enillodd Cwpan Undeb Amaethwyr Cymru am y fwyaf o bwyntiau ar draws yr holl gystadlaethau, gyda C.Ff.I Sir Gâr yn gydradd 2il gyda C.Ff.I Brycheiniog.
Llongyfarchiadau a diolch i’r holl aelodau am eu gwaith caled ac ymroddiad wrth arwain i fyny at y Sioe gyda’r holl baratoadau a’r cystadlu, ac mae ein diolch hefyd i’r arweinwyr a’r hyfforddwyr am eu holl gefnogaeth a’u parodrwydd i roi o’i hamser i helpu a chynorthwyo ein haelodau.