Eto eleni fu cystadlu brwd yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin yn Eisteddfod Sir Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ar nos Wener y 11eg, nos Wener 18fed a Dydd Sadwrn 19eg o Hydref. Ar ôl dwy noson a diwrnod o adloniant o safon uchel iawn, C.Ff.I Penybont cipiodd darian yr Eisteddfod am y chweched tro yn olynol. Llongyfarchiadau i’r clwb a hefyd i C.Ff.I Llanddarog am ddod yn ail, ac i C.Ff.I Dyffryn Cothi a C.Ff.I Dyffryn Tywi am ddod yn gydradd gyntaf yn yr adran waith cartref ac yn rhannu tarian Elonwy Phillips.
Roedd gwaith caled iawn o flaen ein beirniaid gyda’r holl gystadlu. Mae ein diolch yn mynd iddynt hwy i gyd am ei gwasanaeth. Fu Meinir Jones Parry yn beirniadu yr adran gerdd, Bronwen Morgan yn y llefaru, Cefin Vaughan yn yr Adran Ysgafn, Caryl Edwards y ddawns disgo, Myfanwy Rees yn y Dawnsio Gwerin a Heiddwen Tomos ac Eurfyl Lewis yn yr Adran Gwaith Cartref.
Ein llywyddion ar gyfer yr Eisteddfod eleni oedd Dyfan James ar y nos Wener gyntaf, Brian ac Ann Walters ar gyfer yr ail nos Wener, yna Llinos Jones ar gyfer y Dydd Sadwrn. Diolch yn fawr iddynt am ei geiriau pwrpasol o’r llwyfan ac am eu rhoddion hael tuag at gyllid y Mudiad yn Sir Gâr.
Bum yn ffodus iawn o gael Elin Rees yn gyfeilydd yn yr Eisteddfod eleni eto. Rydym yn diolch iddi am ei gwasanaeth a hefyd i’r unigolion arall fu’n cyfeilio i’r aelodau. Diolch hefyd i’r sawl fu’n arwain yn yr Eisteddfod eleni – Aled Thomas, Iestyn Owen, Hefin Evans, Sion Evans, Angharad Thomas a Carwyn Jones. Diolch yn fawr hefyd i bawb oedd yn gweithio tu cefn llwyfan ac wrth y drws gyda Swyddogion a ffrindiau eraill y Mudiad.
Mae ein diolch yn fawr i’n cofiaduron oedd wrthi’n gofalu am y sgoriau. Diolch i Jane Morgan, Marian Thomas, Angela Isaac ac hefyd i Llinos Jones fu hefyd wrthi yng ngofal y tystysgrifau. Diolch yn fawr hefyd i Dylan Bowen oedd wrthi yng ngofal y Sain a’r Golau.
Eleni, fe wnaeth un o arweinwyr C.Ff.I Llanddarog, Nia Thomas, gomisiynu Mari Thomas i greu coron arbennig er cof am ei rhieni, Olwen a John Thomas. Rydym yn ddiolchgar iawn i Nia am y rhodd yma i’r Sir. Enillydd cyntaf y goron yma oedd Llysgenhades y Sir, Angharad Thomas o C.Ff.I Dyffryn Tywi. Cafodd cerflun cyfoes ei roi gan gyn-Gadeirydd y Sir, Carys Thomas i Angharad â greuwyd gan Alan Jones a’i ferch, Lowri Jones. Enillydd y gadair eleni oedd Ceri Davies o C.Ff.I Dyffryn Cothi. Roedd y gadair yn rhoddedig eleni gan Gadeirydd y Sir, Iestyn Owen. Cafodd y gadair yma ei greu gan aelod o C.Ff.I Capel-Arthne, Owen Phillips. Llongyfarchiadau i Angharad a Ceri, a diolch i bawb a gymrodd rhan yn y Seremoni, yn enwedig i Jean Lewis, Llywydd y Sir am redeg y seremoni yn hwylus iawn.
Diolch i C.Ff.I Penybont am stiwardio dros yr Eisteddfod gyfan a diolch i W D Lewis, All Pump Services a Chyfrifwyr LHP am noddi’r digwyddiad. �
Dyma ganlyniadau’r Eisteddfod:
Cystadleuthau Llwyfan
Unawd Offerynnol
Unawd Alaw Werin
Canu Emyn
Sgets
Dawnsio Gwerin
Ensemble Offerynnol
Ar y Newyddion
Cân Gyfoes
Côr Cymysg
Unawd 16 neu iau
Llefaru 18 neu iau
Unawd 21 neu iau
Llefaru 21 neu iau
Unawd 26 neu iau
Llefaru 26 neu iau
Deuawd 26 neu iau
Dawns Disgo
Parti Llefaru 26 neu iau
Meimio i Gerddoriaeth
Ymgom
‘Sgen ti Dalent?
Monolog
Unawd Sioe Gerdd neu Ffilm
=3. Hannah Richards, C.Ff.I Penybont
=3. Lowri Voyle, C.Ff.I Llanddarog
Ensemble Lleisiol
Deuawd neu Driawd Ddoniol
Parti Deusain
Gwaith Cartref
Rhyddiaith
Cerdd
Cystadleuaeth i aelodau 26 neu iau
Cystadleuaeth i aelodau 21 neu iau
Cystadleuaeth i aelodau 16 neu iau
Brawddeg
Ffotograffiaeth
Limrig
Celf
Cywaith Clwb