Ar Ddydd Sadwrn 16eg o Dachwedd cynhaliwyd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Saesneg C.Ff.I Sir Gaerfyrddin yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cystadlodd yr aelodau yn y gystadleuaeth Ddarllen (Dan 14), Siarad Cyhoeddus Iau (Dan 16), cystadleuaeth Seiat Holi (Dan 21) a chystadleuaeth Dadl Mace (Dan 26).
Diolch i Ysgol Gynradd Nantgaredig am gael defnyddio’r ysgol, am y stiwardiaid am wneud i’r holl gystadlaethau redeg yn esmwyth, ac i’r hyfforddwyr a roddodd o’u hamser i helpu a hyfforddi ein haelodau. Diolch yn fawr hefyd i’r pedwar beirniad; Miss Tania Hancock (Darllen), Mr Aled Johnson (Adran Iau), Mrs Kay Marie Thomas (Seiat Holi) a Mrs Wendy Phillips (Dadl Mace), a diolch i noddwr y gystadleuaeth, Hwylusydd Tai Gwledig.
Dyma ganlyniadau’r diwrnod:
Adran Darllen dan 14:
Enillwyr Tarian Her Ardal y De: C.Ff.I Penybont
Cwpan Howard a Margaret Roberts wedi’i gyflwyno i’r unigolyn gorau yn yr Adran Ddarllen: Celyn Richards, C.Ff.I Penybont
Adran Iau dan 16:
Enillwyr Tarian Her Tegwyn Lloyd: Tîm Swyddfa
Enillydd Cwpan Ronnie Ll. Roberts am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Iau: Elis Davies, C.Ff.I Llanddarog
Seiat Holi dan 21:
Enillwyr Stand Gacennau Mary Kay Davies: C.Ff.I Llangadog (Tîm 1)
Enillydd Tarian Nantybwla am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Ganol: Aaron Hughes, C.Ff.I Llangadog
Dadl Mace dan 26:
Enillwyr Tarian her y diweddar Col. Sir Grismond Phillips: C.Ff.I Dyffryn Cothi
Tarian Elonwy & Gareth Phillips am y perfformiad unigol gorau yn yr adran Hyn: Owain Davies, C.Ff.I Llanllwni