Siarad Cyhoeddus Cymraeg
Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn, 25ain o Ionawr yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cafwyd gwledd o gystadlu mewn pedair adran wahanol gyda nifer fawr o glybiau’r Sir yn cystadlu. Diolch yn fawr iawn i Ysgol Gynradd Nantgaredig am adael i ni ddefnyddio’r Ysgol, diolch hefyd i’r stiwardiaid am sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r holl hyfforddwyr am roi o’i hamser i hyfforddi’r aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl feirniaid am eu gwaith gwych yn ystod y dydd.
Adran Ddarllen
Miss Rachel Davies cafwyd y dasg o feirniadu 9 tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14. Dyma’r canlyniadau:
Cwpan Arian i’r Tîm buddugol:
C.Ff.I Llangadog 1 – Lois Davies, Abner Price a Sion Jones
Cwpan Arian am yr Unigolyn Gorau:
Celyn Richards, C.Ff.I Penybont
Adran Iau
Yng nghystadleuaeth yr Adran Iau i aelodau dan 16, Miss Angharad Edwards Mrs Edna Davies oedd â’r dasg o feirniadu, gyda 11 tîm yn cystadlu mewn cystadleuaeth o safon uchel. Dyma’r canlyniadau:
Cwpan Teulu Pantyffynnon i’r Tîm Buddugol:
C.Ff.I Llanfynydd – Carys Morgan, Gwenno Roberts a Sara Jones
Cwpan Teulu Ffosyffin am yr Unigolyn Gorau:
Carys Morgan, C.Ff.I Llanfynydd
Adran Ganol
Mrs Mererid Jones oedd yng ngofal yr Adran Ganol. Roedd 5 tîm yn y gystadleuaeth yma a dyma’r canlyniadau:
Cwpan Alun James Ysg. i’r Tîm Buddugol:
C.Ff.I Llanllwni A – Betsan Jones, Sioned Bowen a Sioned Howells
Tarian Mr. Emyr Williams am yr Unigolyn Gorau:
Betsan Jones, C.Ff.I Llanllwni
Adran Hŷn:
Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng 10 tîm cryf iawn. Miss Manon Richards oedd gyda’r dasg o feirniadu a dyma’r canlyniadau:
Cwpan y diweddar Henadur S.O Thomas i’r Tîm Buddugol:
C.Ff.I Llanfynydd – Lowri Rees, Ffion Rees, Sara Roberts a Elin Childs
Cwpan Pat Davies i’r Unigolyn Gorau:
Owain Davies, C.Ff.I Llanllwni