Ar Ddydd Sadwrn 29ain o Ionawr cynhaliwyd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg C.Ff.I Sir Gaerfyrddin yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cystadlodd yr aelodau yn y gystadleuaeth Darllen (Dan 14), Siarad Cyhoeddus Iau (Dan 16), Cystadleuaeth Seiat Holi (Dan 21) a chystadleuaeth Siarad ar ôl Cinio (Dan 28).
Diolch i Ysgol Gynradd Nantgaredig am gael defnyddio’r Ysgol; i’r stiwardiaid am rhediad esmwyth o’r holl gystadlaethau, i noddwyr y dydd Wynnstay, ac i’r hyfforddwyr a roddodd eu hamser i helpu a hyfforddi ein haelodau. Diolch yn fawr hefyd i’r pedwar beirniad; Mr Edryd Eynon (Darllen), Mr Wyn Thomas (Iau), Mr Aled Johnson (Seiat Holi) a Mrs Gwennan Jenkins (Siarad ar ôl Cinio).
Dyma canlyniadau’r diwrnod:
Enillwyr Tarian Her Ardal y De: C.Ff.I Capel-Arthne – Mabli Edwards, Beca Curry a Awen Davidson.
Cwpan Howard a Margaret Roberts wedi’i gyflwyno i’r unigolyn gorau yn yr Adran Ddarllen: Mabli Edwards, C.Ff.I Capel-Arthne.
Adran Iau dan 16:
Enillwyr Tarian Her Tegwyn Lloyd: C.Ff.I Capel-Arthne – Iwan Bryer, Gwenllian Jones a Trystan Tyler
Enillydd Cwpan Ronnie Ll. Roberts am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Iau: Gwenllian Jones, C.Ff.I Capel-Arthne
Seiat Holi dan 21:
Enillwyr Stand Gacennau Mary Kay Davies: C.Ff.I Penybont – Hannah Richards, Daniel O’Callaghan, Lleu Pryce a Caeo Pryce
Enillydd Tarian Nantybwla am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Ganol: Daniel O’Callaghan, C.Ff.I Penybont
Siarad ar ôl Cinio dan 28:
Enillwyr Tarian her y diweddar Col. Sir Grismond Phillips: C.Ff.I Penybont – Mared Evans, Fiona Phillips ac Elen Jones
Tarian Elonwy & Gareth Phillips am y perfformiad unigol gorau yn yr adran Hyn: Mared Evans, C.Ff.I Penybont