Disgrifiad Swydd
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn awyddus i gyflogi Trefnydd i ddarparu rhaglen eang o weithgareddau a datblygu gwaith y ffederasiwn mewn partneriaeth â swyddog gweinyddol, tîm o swyddogion y Sir a’r mudiad yng Nghymru.
Mae angen i’r person yma fod gyda’r gallu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc a meddu ar sgiliau rhyngbersonol, trefniadaeth a chyfathrebu arbennig. Hefyd mae’n rhaid meddu ar y gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm sy’n hyrwyddo gwahanol weithgareddau a phrosiectau o fewn y Sir a thu hwnt.
Mae Sir Gâr yn chwilio am unigolyn deinamig llawn egni i gynnal a datblygu mudiad llwyddiannus C.Ff.I yn Sir Gâr.
CYFLOG:
Mi fydd y cyflog ar ystod y raddfa cyflog sydd rhwng £25,419 a £30,000
CEISIADAU:
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd hon trwy ddychwelyd CV a llythyr cais yn cynnwys y canlynol:
Dylai’r llythyr cais amlinellu:
Mae croeso i chi ffonio neu ebostio cadeirydd y bwrdd rheoli am sgwrs ac am fwy o wybodaeth sef
Gethin Thomas:- 07773688769 neu e bost:- gethintthomas@googlemail.com
Dylech ddychwelyd eich cais at: swyddicffisirgar@gmail.com
DYDDIAD CAU: 29ain o Ebrill 2022
Cynhelir cyfweliadau tua canol mis Mai
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol gan y bydd y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant a phobl ifanc.