Cynhaliwyd Noson Chwaraeon y Sir yn ddiweddar ar Gyfleusterau Chwaraeon Tregib, Llandeilo ac yn Clwb Rygbi Nantgaredig. Bu cystadlu brwd yn ystod y ddwy noson rhwng aelodau’r Sir wrth iddynt chwarae gemau Hoci, Dodgeball, Frisbee, Rygbi Cyffwrdd a Rygbi 7-bob ochr.
Yn yr Hoci i Ferched gwelwyd 2 tîm yn cystadlu. Ar ôl sawl gem gwelwyd tîm C.Ff.I Llanllwni a C.Ff.I Penybont yn dod i’r brig. Gwelwyd gemau cyffroes draw ar y cae Frisbee hefyd ble roedd 5 tîm yn brwydro yn erbyn eu gilydd yn y gystadleuaeth. Ar ddiwedd y cystadlu, C.Ff.I Llangadog daeth i’r brig gyda 11 pwynt.
Y gystadleuaeth dodgeball cymerodd le yn y Neuadd Chwaraeon gyda 4 tîm yn cystadlu. Ar ôl gemau cryf, C.Ff.I Llanllwni cipioddy wobr 1af.
Braf oedd gweld Aelodau iau y Sir yn cystadlu yng nghystadleuaeth Rygbi ‘Touch’ Cymysg, gyda C.Ff.I Llannon a C.Ff.I Llanymddyfri yn cystadlu. Fe wnaeth C.Ff.I Llannon a C.Ff.I Llanymddyfri ddod yn gydradd 1af.
Braf oedd gweld nifer o aelodau yn cystadlu yng nghystadlaethau Athletau’r Sir am y tro cyntaf. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Braf oedd gweld cae Ysgol Bro Teifi yn llawn gydag aelodau Sir Gaerfyrddin.
Roedd y canlyniadau fel a ganlyn:
Campau Trac:
100m
1af – Ffion Davies, CFFI Capel Iwan
2il – Phoebe Smith, CFFI Capel Iwan
3ydd – Georgina Smith, CFFI Capel Iwan
1af – Sophia Reid-Thomas, CFFI Penybont
2il – Jessica Jones, CFFI Dyffryn Cothi
3ydd – Alaw Jones, CFFI Llanllwni
1af – Eunice Jones, CFFI San Ishmael
2il – Luned Jones, CFFI Llanllwni
3ydd – Bethan Evans, CFFI San Ishmael
1af – Tudur George, CFFI Llanllwni
2il – Llewelyn Owen, CFFI San Ishmael
3ydd – Ryan Jones, CFFI Dyffryn Cothi
1af – Alex Lewis, CFFI Dyffryn Cothi
2il – Abner Evans, CFFI Llangadog
3ydd – Hywel Jones, CFFI Dyffryn Cothi
1af – Steffan Howells, CFFI San Ishmael
2il – Tomos Jones, CFFI Llanllwni
1af – Elgan Thomas, CFFI San Ishmael
2il – Iestyn Howells, CFFI San Ishmael
800m
1af – Alaw Jones, CFFI Llanllwni
1af – Luned Jones, CFFI Llanllwni
2il – Elen Bowen, CFFI Capel Iwan
3ydd – Rose Charnley, CFFI San Ishmael
1af – Jac Jones, CFFI San Pedr
2il – Ryan Jones, CFFI Dyffryn Cothi
3ydd – Rhydian Edwards, CFFI San Pedr
1af – Gwion Evans, CFFI Llanllwni
1af – Aled Thomas, CFFI Llangadog
1af – Elgan Thomas, CFFI San Ishmael
2il – Dan Jones, CFFI Llanllwni
Ras Gyfnewid
1af – CFFI Penybont
2il – CFFI Llangadog
1af – CFFI San Ishmael
2il – CFFI Llanllwni
1af – CFFI Llanllwni
2il – CFFI Dyffryn Cothi
1af – CFFI Dyffryn Cothi
1af – CFFI San Ishmael
2il – CFFI Llanllwni
Campau Maes:
Disgen
1af – Marie Hughes, CFFI Penybont
1af – Elan Thomas, CFFI Penybont
2il – Nia Davies, CFFI Llanllwni
3ydd – Cerys Nicholas Jones, CFFI Penybont
1af – Tomos Green, CFFI Dyffryn Cothi
2il – Llyr Dunn, CFFI Llanllwni
3ydd – Ryan Ashley, CFFI Dyffryn Cothi
1af – Hywel Jones, CFFI Dyffryn Cothi
2il – Gwion Evans, CFFI Llanllwni
1af – Hefin Jones, CFFI Llanllwni
2il – Edryd James, CFFI Capel Iwan
Taflu Pwysau
1af – Erin Jones, CFFI Llangadog
2il – Lily Evans, CFFI Capel Iwan
3ydd – Marie Hughes, CFFI Penybont
1af – Elan Thomas, CFFI Penybont
2il – Nia Davies, CFFI Llanllwni
3ydd – Cerys Nicholas Jones, CFFI Penybont
1af – Mared Evans, CFFI Penybont
2il – Lora Phillips, CFFI San Ishmael
1af – Hywel Jones, CFFI Dyffryn Cothi
2il – Iestyn Thomas, CFFI Llanllwni
3ydd – Gwion Evans, CFFI Llanllwni
1af – Carwyn Jones, CFFI Penybont
2iiii – Jac Jones, CFFI Llanllwni
Naid Hir
1af – Rhiannydd Davies, CFFI Llandeilo
1af – Jessica Jones, CFFI Dyffryn Cothi
1af – Catrin Price, CFFI Llangadog
1af – Lora Phillips, CFFI San Ishmael
1af – Harri Gibbon, CFFI San Ishmael
2il – Dion Jones, CFFI Penybont
3ydd – Jac Jones, CFFI San Pedr
1af – Gwion Evans, CFFI Llanllwni
1af – Tomos Jones, CFFI Llanllwni
1af – Dan Jones, CFFI Llanllwni
2il – Iestyn Howells, CFFI San Ishmael
Naid Uchel
1af – Mari-Glyn Jones, CFFI Capel Iwan
1af – Carwen Richards, CFFI Dyffryn Cothi
1af – Harri Gibbon, CFFI San Ishmael
2il – Llyr Dunn, CFFI Llanllwni
3ydd – Tomos Green, CFFI Dyffryn Cothi
1af – Gwion Evans, CFFI Llanllwni
1af – Sion Davies, CFFI Capel Iwan
1af – Elgan Thomas, CFFI San Ishmael
2il – Dan Jones, CFFI Llanllwni
3ydd – Carwyn Jones, CFFI Penybont
Pob lwc i’r aelodau i gyd fydd yn cystadlu yn y cystadlaethau uchod ac yn cynrychioli’r Sir yn Niwrnod Chwaraeon Cymru ar y 19fed o Fehefin yn Aberhonddu.
Ar yr un noson a’r rygbi ‘Touch’ Cymysg cynhaliwyd gemau Rygbi 7 Bob Ochr i Fechgyn ar gaeau chwarae Clwb Rygbi Nantgaredig.
Yn y gystadleuaeth Rygbi 7 bob ochr i Ddynion, roedd 5 tim yn cystadlu – C.Ff.I Llanfynydd, tîm cymysg C.Ff.I Llangadog a C.Ff.I Llannon, tîm cymysg C.Ff.I San Ishmael, C.Ff.I Llanddarog a C.Ff.I Llanelli, tîm cymysg C.Ff.I Capel Iwan a C.Ff.I Llanllwni a tîm cymysg C.Ff.I San Pedr a C.Ff.I Penybont. Ar ddiwedd y noson, tîm cymysg C.Ff.I San Pedr a C.Ff.I penybontoedd yn fuddugol, heb golli dim un gêm. Pob lwc i’r aelodau a fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yn y gystadleuaeth Rygbi 7 Bob Ochr yn y Sioe Frenhinol.
Llongyfarchiadau a diolch i bob aelod am gystadlu ac am gynrychioli eich clybiau. Hoffwn ddiolch i’r swyddogion a’r dyfarnwyr i gyd am gadw trefn ar y ddwy noson ac hefyd i Gyfleusterau Chwaraeon Tregib a Chlwb Rygbi Nantgaredig am adael i ni ddefnyddio’r cyfleusterau.
Daeth y nosweithiau hir o ymarfer a pharatoi ar gyfer y Rali i ben i aelodau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr a chafwyd ddiwrnod arbennig o gystadlu brwd ar Faes y Sioe, Nantyci ar Ddydd Sadwrn, 14eg o Fai 2022. Daeth cannoedd o bobl i gefnogi’r aelodau a chael gweld eu gwaith safonol iawn yng nghystadlaethau megis canu, coginio, paratoi llo a chneifio, ac yn sicr roedd gwaith y beirniaid yn sialens.
Ar ôl yr holl gystadlu a’r beirniadu, fe ddaeth yr amser i anrhydeddu’r Llysgennad a’r Llysgenhades newydd y Ffermwyr Ifanc yn y Sir. Llysgenhades newydd y Sir yw Mared Evans o Glwb Penybont gyda Ioan Harries o Glwb Llannon yn Llysgennad y Sir. Dirprwyon i’r ddau eleni yw Betsan Jones, CFFI Llanllwni, Jasmine Emerick, CFFI Llangadog, Rosie Davies, CFFI Llannon a Cathrin Jones, CFFI Llanllwni. Cafodd Aelod Iau’r Flwyddyn, Celyn Richards, C.Ff.I Penybont ac Aelod Hŷn y Sir, Ifan Williams, CFFI Llangadog eu hanrhydeddu hefyd. Stocmon Iau’r Flwyddyn oedd Lewis Gibbin, CFFI Hendygwyn ar Daf a Stocmon Hŷn y Flwyddyn oedd Nia Thomas, CFFI San Ishmaels. Yn ennill buwch Goffa Aled Howells am brif Stocmon dros y flwyddyn oedd Elan Thomas o Glwb Penybont. Yn olaf, cyflwynwyd llu o wobrau i’r aelodau daeth i’r brig yn ystod y dydd a llongyfarchiadau i bob un ohonynt ar eu llwyddiant a phob lwc i’r aelodau bydd yn cynrychioli’r Sir ar lefel Cymru yn y Sioe Frenhinol ac ar lefel Cenedlaethol.
Ni fyddai’r diwrnod wedi bod yn bosib heb gydweithrediad staff Maes y Sioe na chwaith i stiwardiaid C.Ff.I Llanllwni am eu gwaith diflino cyn ac ar ddiwrnod y Rali, a hefyd i C.Ff.I Llanymddyfri am stiwardio’r ddawns. Mae’n rhaid diolch hefyd i C.Ff.I Capel Iwan am stiwardio’r nosweithiau Barnu Stoc. Diolch iddynt hwy a diolch i’r ffermwyr wnaeth ddarparu lleoliadau a stoc i gynnal y nosweithiau barnu stoc.
Mae’r Mudiad yn ddibynnol iawn ar ewyllys da pobl ac mae hyn yn sicr yn wir am y noddwyr sydd o hyd yn cefnogi’r Mudiad yn Sir Gâr. Diolch yn fawr i Fwydydd Castell Howell am fod yn brif noddwr y Rali unwaith eto eleni, ac i D G Davies Plant Hire, T L Thomas, T Alun Jones, Prostock Vets, Eagle Signs, Y Sied a Hwylusydd Tai Gwledig. Ni fyddai’r Rali wedi bod yn bosib heb eich Cymorth ariannol chi.
Diolch i’r holl Swyddogion y Sir, Llysgenhadon y Sir, scorwyr, Cegin Fach y Wlad, i stiwardiaid y gât ac i bawb arall wnaeth helpu mewn unrhyw fordd. Roedd y Rali’n ddiwrnod llwyddiannus oherwydd eu gwaith caled a chafwyd noson hwylus iawn i ddathlu yn y Ddawns ar Fferm Brynawelon, Llanfynydd gyda Baldande fel adloniant. Diolch yn fawr iawn i Mr a Mrs Ian Thomas am fodloni i gael y ddawns yno ac am baratoi’r sied.
Llongyfarchiadau i C.Ff.I Penybont am ennill yr Adran Iau a’r Adran Hŷn.
Paul & Whites Cup awarded to the highest team in the Senior Welsh Ponies Section B Judging Competition |
Henry Bennett & Elgan Thomas, CFFI San Ishmaels |
Emrys Bowen Cup awarded to the highest placed team in the Junior Welsh Ponies Section B Stockjudging Competition |
Elan Thomas & Olwen Roberts, CFFI Penybont |
Dyffryn Cothi Y.F.C. Silver Challenge Cup for the highest team in the Senior North County Cheviot sheep Stockjudging Competition |
Ifor Jones & Owain Davies, CFFI Llanllwni |
Whitland Y.F.C. Challenge Cup for the highest team in the Junior North County Cheviot Sheep Stockjudging Competition |
Gilbert Roberts & Olwen Roberts, CFFI Penybont |
Llangadog Y.F.C. Challenge Shield for the highest scoring team in the Senior Hereford Cattle Stockjudging |
Elin Ludgate & Rhodri Williams, CFFI Llanfynydd |
Lyn Thomas Challenge Tankard for the highest scoring team in the Junior Hereford Cattle Stockjudging Competition |
Iwan Thomas & Cari Gibbon, CFFI San Ishmaels |
Sliver Cup presented to the highest team in the Senior Fencing Competition at the County Field Day |
CFFI Llanfynydd |
Silver Cup for the highest team in the Junior Fencing Competition at the County Field Day |
CFFI Penybont |
E C Hills Cup for the highest team in the Rally promotional Sign Competition at the County Field Day |
CFFI Capel Iwan |
D. C. Phillips Challenge Cup for the highest team in the Federation Display Competition |
CFFI Penybont |
Paul and Whites Challenge Cup for the highest scoring team in the Junior Generation Game |
Cari Jones & Angharad Daniel, CFFI Llannon |
Llanarthne Y.F.C. Cup awarded to the highest team in the Senior Generation Game |
Rhys Peach & Gwennan Jones, CFFI Dyffryn Tywi |
Eira Talella Memorial Shield for the highest individual in the Floral Art Competition – NFYFC U16 |
Sian Thomas-Davies, CFFI Llanymddyfri |
Silver Rose Bowl for the highest scoring individual in the Floral Art Competition – NFYFC U21 |
Rhys Griffiths, CFFI Llanddarog |
Mr. & Mrs. Dewi Thomas Silver Rose bowl for the highest scoring individual in the Floral Art Competition – RWAS U21 |
Elan Thomas, CFFI Penybont |
Large Silver Bowl for the highest scoring individual in the Floral Art Competition – NFYFC U28 |
Elen Bowen, CFFI Capel Iwan |
Mr. Huw Evans Tankard awarded to the highest scoring team in the Senior Woodwork Competition |
Henry Bennett & Dylan Thomas, CFFI San Ishmaels |
Aled Tyreglwys Perpetual Memorial Cup awarded to the highest placed Team in the Junior Woodwork Competition |
Iwan Blakeman & Tomos Roberts, CFFI Llanfynydd |
Lever Cup awarded to the highest team in the Senior Shearing Competition |
Max Welton & Rhodri Davies, CFFI Llangadog |
Silver Cup for the highest scoring individual in the Senior Wool Handling Competition |
Lynwen Mathias, CFFI Dyffryn Cothi |
Silver Cup for the highest scoring individual in the Junior Wool Handling Competition |
Harri Williams, CFFI Dyffryn Cothi |
Stella Jones Silver Tray awarded to the highest Team in the Crate a Farm/ Place name sign Competition |
Lowri Jones, CFFI Dyffryn Tywi |
Brynaman YFC Cup awarded to the highest placed individual the U28 Craft Competition |
Elin Ludgate, CFFI Llanfynydd |
Mrs. Glenys Walters Silver Challenge Cup awarded to the highest individual in the Juniors On the Spot Skills Challenge Competition |
Haf Davies & Fflur Davies, CFFI Llandeilo |
Morlogws Challenge Cup awarded to the highest team in the RWS Cookery Competition |
Manon Roberts & Mared Roberts, CFFI Llangadog |
Silver Cup for the highest scoring team in the NFYFC Cookery Competition |
Cerys Thomas, Elen Beynon & Hannah Peach, CFFI Dyffryn Tywi |
Kay Gynn vase awarded to the highest team in the Dressing up Competition |
Trystan Evans & Maggie Lewis, CFFI Dyffryn Cothi |
Ashley Davies Pewter Cup for the highest scoring team in the Main Ring Display |
CFFI Llangadog |
Silver Challenge Cup awarded to the highest team in the Tug of War Competition – Mens Section |
CFFI San Cler & CFFI San Ishmaels |
Cwpan Coffa Nia Wyn Thomas awarded to the highest team in the Tug of War Competition – Womens Section |
CFFI Llanfynydd |
Quite Big Pretty for the highest team in the Tug of War Junior Competition |
CFFI San Pedr |
Richards Nythfa Shield for the highest team in the Create and perform a TV advert promoting Welsh produce |
CFFI Penybont |
ACT LTD Challenge trophy for the Pitch an agricultural item for alternative use |
Angharad Thomas, CFFI Dyffryn Tywi |
Tankard for the highest team in the Senior Singing Group Competition |
CFFI Penybont |
British Oil & Cake Mills Tankard for highest induvidual in Senior Singing Solo Competition |
Hannah Richards, CFFI Penybont |
Trefechan Shield awarded to the highest scoring team in the Junior Singing Group Competition |
CFFI Capel Iwan |
Carmarthenshire Accredited Poultry Breeders Bowl for highest individual in Junior Singing Solo Competition |
Fflur Davies, CFFI Llandeilo |
Heddlu Dyfed Powys Silver Cup awarded to the highest placed team in the Senior On the Spot skills Challenge |
Gwennan Jones & Lowri Jones, CFFI Dyffryn Tywi |
Deosan Cup awarded to the highest scoring team in the Junior Dancing Competition |
CFFI Llanymddyfri |
Pewter Cup awarded to the highest scoring team in Senior Dancing Competition |
CFFI Penybont |
Huw Evans Auctioneer’s Challenge cup for the Highest team in the Halter Making Competition |
Elin Ludgate, CFFI Llanfynydd |
Carmarthen Federation of Y.F.C. Farming and Wildlife Award Cup awarded to the highest team in the Capable Campers |
Cari Davies, Lisa Gibbard & Haf Dafydd, CFFI San Ishmaels |
Silver Cup awarded to the highest placed individual in the Junior Prepare a Beef Calf Competition |
Gwion Jones-Howells, CFFI Penybont |
Silver Cup awarded to the highest individual in the Senior Prepare a Dairy Calf Competition |
Iwan Thomas, CFFI San Ishmaels |
A C Bryer silver cup for the highest scoring individual in the Junior Prepare a Dairy Calf Competition |
William Richards, CFFI Llanddarog |
Old Ladies TOW silver cup to the best team in tiling a Wal. |
Sara Brown & Megan Stevens, CFFI Cynwyl Elfed |
Richard Werrett Memorial Cup to highest scoring team in the Scrapbook Competition |
CFFI Llanelli |
Phillip Davies & Gareth Davies Memorial Cup awarded to the highest individual in the Senior Field Day Stockman of the Year Competition
Nia Thomas, CFFI San Ishamels
Vale of Towy trophy awarded to the highest individual in the Junior Field Day Stockman of the Year Competition.
Lewis Gibbin, CFFI Hendygwyn ar Daf
Buwch goffa Aled Howells am Prif Stocman y flwyddyn
Elan Thomas, CFFI Penybont
Silcox Challenge Cup for the Runners Up in the Senior Section.
CFFI Llangadog
Carmarthenshire Farmers Co-op Society Challenge Shield awarded to the Club
gaining the highest number of points in the Senior Section.
CFFI Penybont
Spillers Challenge Shield for the Runners Up in the Junior Section.
CFFI Capel Iwan
N.F.U. County Challenge Shield awarded to the Club gaining the highest number of points in the Junior Section.
CFFI Penybont
Ar ddydd Sadwrn, 23ain o Ebrill cynhaliwyd diwrnod Gwaith Maes C.Ff.I Cymru gyda Ffederasiwn Clwyd yn cynnal y digwyddiad ym Marchnad Da Byw Rhuthin. Ar ôl diwrnod llwyddiannus o gystadlu, daeth Sir Gâr yn ail.
Yng nghystadleuaeth Stocmon Iau y Flwyddyn, Sir Gâr enillodd y gystadleuaeth gyfan. Llongyfarchiadau i Lewis Gibbin, C.Ff.I Hendygwyn ar Daf, Iwan Thomas, C.Ff.I San Ishmael, Carys Morgan, C.Ff.I Llanfynydd a Guto Price, C.Ff.I Llangadog am gynrychioli’r Sir yn y gystadleuaeth.
Llwyddiant arall i’r Sir oedd yng nghystadleuaeth yr Arddangosfa Ciwb lle cipiodd Hefin Jones, Cathrin Jones, Betsan Jones, Nerys Jones a Sara Thomas o C.Ff.I Llanllwni y wobr gyntaf.
Enillodd y tîm ffensio Iau yr ail wobr. Llongyfarchiadau i Carwyn Thomas, Gilbert Roberts a Gwion Jones-Howells o C.Ff.I Penybont.
Yng nghystadleuaeth Stocmon Hŷn y Flwyddyn, Sir Gâr ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau i Nia Thomas, C.Ff.I San Ishmaels, Angharad Thomas, C.Ff.I Dyffryn Tywi, Elin Ludgate, C.Ff.I Llanfynydd a Sion Roberts, C.Ff.I Llangadog am gynrychioli’r Sir yn y gystadleuaeth.
Llongyfarchiadau hefyd i Iestyn Owen , C.Ff.I Capel-Arthne am ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth arwerthu.
Da iawn i Rhys Jones, Rhydian Davies a Sion Davies o C.Ff.I Llanfynydd am gystadlu yn y gystadleuaeth Ffensio Hŷn. Da iawn hefyd i Aled Jones a Dafydd Evans, C.Ff.I Llanllwni a Ieuan Harries, C.Ff.I Llannon am gystadlu yn y gystadleuaeth Sgiliau Peiriannau Fferm ac i Harri Williams a Lloyd Thomas o C.Ff.I Dyffryn Cothi am gystadlu yn y gystadleuaeth Fferm Ffactor Iau.
Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gystadlu yn y Diwrnod Gwaith Maes a diolch i’r holl hyfforddwyr ac unrhyw un wnaeth helpu’r aelodau wrth baratoi tuag at y diwrnod.
Disgrifiad Swydd
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn awyddus i gyflogi Trefnydd i ddarparu rhaglen eang o weithgareddau a datblygu gwaith y ffederasiwn mewn partneriaeth â swyddog gweinyddol, tîm o swyddogion y Sir a’r mudiad yng Nghymru.
Mae angen i’r person yma fod gyda’r gallu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc a meddu ar sgiliau rhyngbersonol, trefniadaeth a chyfathrebu arbennig. Hefyd mae’n rhaid meddu ar y gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm sy’n hyrwyddo gwahanol weithgareddau a phrosiectau o fewn y Sir a thu hwnt.
Mae Sir Gâr yn chwilio am unigolyn deinamig llawn egni i gynnal a datblygu mudiad llwyddiannus C.Ff.I yn Sir Gâr.
CYFLOG:
Mi fydd y cyflog ar ystod y raddfa cyflog sydd rhwng £25,419 a £30,000
CEISIADAU:
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd hon trwy ddychwelyd CV a llythyr cais yn cynnwys y canlynol:
Dylai’r llythyr cais amlinellu:
Mae croeso i chi ffonio neu ebostio cadeirydd y bwrdd rheoli am sgwrs ac am fwy o wybodaeth sef
Gethin Thomas:- 07773688769 neu e bost:- gethintthomas@googlemail.com
Dylech ddychwelyd eich cais at: swyddicffisirgar@gmail.com
DYDDIAD CAU: 29ain o Ebrill 2022
Cynhelir cyfweliadau tua canol mis Mai
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol gan y bydd y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Bu cystadlu brwd trwy gydol y dydd yn Niwrnod Gwaith Maes y Sir a gynhaliwyd ym Mart Caerfyrddin ac yn Maes y Sioe, Nantyci ar Ddydd Sadwrn 2il o Ebrill 2022.
Nia Thomas, C.Ff.I San Ishmaels enillodd teitl Stocmon Hŷn y Flwyddyn gyda Elin Ludgate, C.Ff.I Llanfynydd yn ail, ac Angharad Thomas, C.Ff.I Dyffryn Tywi a Sion Roberts, C.Ff.I Llangadog yn cydradd trydydd. Yn Stocmon Iau y Flwyddyn, Lewis gibbin, C.Ff.I Hendygwyn ar Daf daeth i’r brig yn y gystadleuaeth gyda Iwan Rhys Thomas, C.Ff.I San Ishmaels yn ail, Elan Thomas, C.Ff.I Penybont yn drydydd a Carys Morgans, C.Ff.I Llanfynydd yn bedwerydd. Bydd yr wyth yn mynd ymlaen i gynrychioli Sir Gâr ar lefel Cymru a phob lwc iddynt.
Bechgyn C.Ff.I Llanfynydd; Rhydian Davies, Rhys Jones a Sion Davies gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Codi Ffens Adran Hŷn gyda C.Ff.I Penybont yn cipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Codi Ffens Iau. Da iawn i Gilbert Roberts, Gwion Jones-Howells a Carwyn Thomas. Pob lwc i’r ddau dîm ar lefel Cymru.
Rhydian Davies, C.Ff.I Llanfynydd enillodd tasg 1; Ieuan Harries, C.Ff.I Llannon enillodd tasg 2; Aled Jones, C.Ff.I Llanllwni enillodd tasg 3 a Katia Rose, C.Ff.I Llannon enillodd tasg 4 Sgiliau Peiriannau Fferm. Pob lwc i’r pedwar ar lefel Cymru.
Llongyfarchiadau i Harri Williams a Lloyd Thomas o C.Ff.I Dyffryn Cothi a enillodd y gystadleuaeth Fferm Ffactor Iau. Iestyn Owen, C.Ff.I Capel-Arthne enillodd y gystadleuaeth Arwerthu. Yn y gystadleuaeth Arddangosfa Ciwb, C.Ff.I Llanllwni ddaeth i’r brig. Pob lwc i’r aelodau yma wrth iddynt gynrychioli’r Sir ar lefel Cymru.
Yn y gystadleuaeth Saethu Clai, Hywel Jones, C.Ff.I Dyffryn Cothi ddaeth i’r brig yn yr adran Dan 17, Martha Sauro, C.Ff.I Llanelli ddaeth yn gyntaf yn yr adran Dan 28 i Ferched a Rhys Meirion Evans, C.Ff.I San Cler cipiodd y wobr gyntaf yn yr adran Dan 28 i Fechgyn. Fydd yr aelodau yma yn cynrychioli Sir Gâr ar lefel Genedlaethol a phob lwc iddynt.
Diolch i bawb wnaeth helpu gyda’r stiwardio. Mae’n rhaid diolch i Mr Euros Jones, Mr Grant Hartman, Mr Lloyd Howells, Mr Dylan Jones a Mr Ioan Jones am gael defnyddio eu stoc i’r Stocmon hefyd. Diolch hefyd i Gwili Jones, Dalton’s ATVs, T Alun Jones ac i Wynnstay am gael defnyddio eu peiriannau, trelars a gatiau i’r Sgiliau Peiriannau Fferm. Diolch enfawr i’r beirniaid am eu gwaith diflino trwy gydol y dydd.
Ar ddydd Sul, 27ain o Fawrth 2022, cynhaliwyd diwrnod Siarad Cyhoeddus C.Ff.I Cymru i fyny ar Faes y Sioe, Llanelwedd. Yn ystod y diwrnod, daeth cannoedd o aelodau o bob gwr o Gymru i gystadlu yn y cystadlaethau Siarad Cyhoeddus, ynghyd a’r gystadleuaeth Cais am Swydd, Aelod Iau ac Hŷn y flwyddyn a hefyd dawns codi hwyl.
Siarad Cyhoeddus Saesneg
Cafwyd llwyddiant ysgubol yn yr Adran Saesneg, gyda’r aelodau yn sicrhau mai Sir Gâr oedd y Ffederasiwn Buddugol yn y Bedair Adran Siarad Cyhoeddus Saesneg.
Celyn Richards (Penybont), Trystan Evans (Dyffryn Cothi) a Sam Morgan (Llandeilo) oedd yn cynrychioli’r Sir yn yr Adran Ddarllen. Llongyfarchiadau i’r tîm yma am ddod yn 1af ac i Trystan Evans am ennill y darllenydd gorau.
Yn yr Adran Iau, Morgan Davies (Llanddarog), Lois Davies (Llangadog) a Gwenno Roberts (Llanfynydd) oedd yn cynrychioli’r Sir. Llongyfarchiadau i’r tîm yma hefyd am ddod yn 1af.
Hannah Richards a Daniel O’Callaghan (Penybont), Jac Davies a Heledd Jones (Dyffryn Tywi) oedd y pedwar oedd yn cynrychioli’r Sir yn yr Adran Ganol. Llongyfarchiadau i’r pedwar am gipio’r 2il wobr gyda Hannah Richards yn ennill y wobr am yr unigolyn gorau.
Yn yr Adran Hŷn, Ceri Davies a Lynwen Mathias (Dyffryn Cothi), Fiona Phillips a Teleri James (Penybont), a Owain Davies (Llanllwni) oedd yn cynrychioli’r Sir. Llongyfarchiadau i’r tim am gipio’r 2il wobr ac i Teleri James am ennill y wobr unigolyn gorau.
Siarad Cyhoeddus Cymraeg
Cafwyd llwyddiant ysgubol yn yr Adran Gymraeg, gyda’r aelodau yn sicrhau mai Sir Gâr a Cheredigion sy’n rhannu’r tarian am y Ffederasiwn Buddugol yn y Bedair Adran Siarad Cyhoeddus Cymraeg.
Mabli Edwards a Beca Curry (Capel-Arthne) a Celyn Richards (Penybont) oedd yn cynrychioli’r Sir yn yr Adran Ddarllen. Llongyfarchiadau iddynt am ddod yn 2il yn yr Adran yma ac i Celyn Richards am gipio’r wobr am y darllenydd gorau.
Yn yr Adran Iau, Lois Davies (Llangadog), Gwenllian Jones (Capel-Arthne) a Sara Jones (Llanfynydd) oedd yn cynrychioli’r Sir. Llongyfarchiadau i’r tîm am gipio’r 2il wobr gyda Gwenllian Jones yn ennill y wobr am yr unigolyn gorau.
Roedd y tîm oedd yn cynrychioli Sir Gâr yn yr Adran Ganol yn fuddugol yn eu hadran nhw gyda Sioned Howells yn cipio’r wobr am yr unigolyn gorau. Llongyfarchiadau i Sioned Howells (Llanllwni), Daniel O’Callaghan a Lleu Pryce (Penybont) a Heledd Jones (Dyffryn Tywi) am eu gwaith ardderchog.
2il oedd canlyniad yr Adran Hŷn. Llongyfarchiadau i Mared Evans (Penybont), Carwen Richards (Dyffryn Cothi) ac Owain Davies (Llanllwni) am gynrychioli’r Sir.
Llongyfarchiadau gwresog i bawb am sicrhau bod Tarian Adran Saesneg a’r Adran Gymraeg yn dod nôl i Sir Gâr.
Aelod Iau ac Hŷn y Flwyddyn
Celyn Richards (Penybont) ac Ifan Williams (Llangadog) oedd yn cynrychioli’r Sir yn y gystadleuaeth Aelod iau ac Hŷn y flwyddyn. Llongyfarchiadau i’r ddau am gynrychioli’r Sir ar lefel Cymru.
Diolch yn fawr iawn i’r holl aelodau am eu gwaith a’i hymdrech yn cynrychioli’r Sir. Hefyd, mae’n rhaid diolch yn fawr iawn i’r hyfforddwyr am eu gwaith i helpu’r aelodau gyda’i chyflwyniadau.
Cynhaliwyd Cystadleuaeth Bowlio Deg y Sir ar y 2il o Fawrth 2022 yn Xcel Bowl, Caerfyrddin.
Diolch i’r canlynol:
Llongyfarchiadau i C.Ff.I Capel Iwan a gibio’r wobr 1af yn Adran Iau a Hŷn.
Cystadleuaeth Aelod Iau y Flwyddyn
Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mrs Annwen Williams a Miss Elen Williams.
Neges gan y beirniaid:
Er mai ond tri aelod wnaeth gystadlu, fe all unrhyw un o’r tri wedi cael y teitl o aelod iau y flwyddyn C.Ff.I Sir Gâr 2022. Roedd y tri yn angerddol iawn dros y Mudiad ac yn aelodau brwd o’i clybiau. Llongyfarchiadau a Diolch i’r tri am gystadlu – dylem fod yn browd iawn o’u hunain.
Celyn Richards o CFFI Penybont gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Iau CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2022. Mae Celyn yn 14 Mlwydd Oed – Blwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin sy’n mwynhau Canu yn ei hamser hamdden.
Mae Celyn yn ysgrifennydd cofnodion ar y Clwb ond hefyd yn ysgifennydd cofnodio ar Fforwm Ieuenctid y Sir eleni.
Un o brif uchafbwyntiau Celyn oedd cael cynrychioli Sir Gâr a Chymru, mewn cystadleuaeth genedlaethol y siarad cyhoeddus CFfI. Er nad oeddwn yn gallu cwrdd i gystadlu efo’u gilydd, roedd hyn yn uchafbwynt iddi oherwydd roedd dal yn gyfle iddynt gystadlu fel Mudiad wrth ddefnyddio zoom, sydd wedi dod yn beth fawr yn ein bywydau dros y cyfnod clo.
Uchelgais Celyn tu allan y CFFI yw llwyddo mynd i’r brifysgol i astudio Cerdd a Chymraeg, ac i ddychwelyd nôl i’w milltir Sgwâr i fyw a gweithio, ac yna fe ddaw’r cyfle iddi rhoi nôl i’r Mudiad wrth hyfforddi a helpu pobl Ifanc y dyfodol.
Cystadleuaeth Aelod Hŷn y Flwyddyn
Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mr Siôn Jenkins a Mr Gethin Havard.
Neges gan y beirniaid:
Er mai ond 5 aelod wnaeth gystadlu yn y gystadleuaeth yma, fe gall unrhyw un o’r pump wedi cipio’r teitl o aelod hŷn y flwyddyn. Roedd y pump yn angerddol iawn dros y Mudiad ac maent wedi gwneud gwaith gwych iawn dros eu Clybiau, dros y Sir a’i chymuendau. Roedd gan yr aelodau syniadau o sut i ddatblygu’r Mudiad a gobeithio bydd y pump aelod yn dilyn y gweledigaethau yma. Llongyfarchiadau i’r pump am gystadlu – dylem fod yn browd iawn o’u hunain.
Ifan Williams o CFFI Llangadog gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Hŷn CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2022. Mae Ifan yn 24 mlwydd oed ac yn Gwerthwr Amaethyddol yn Llanybydder.
Swyddi mae Ifan wedi’i ddal ar lefel Clwb – Ysgrifennydd Cofnodion, Ysgrifennydd Y Wasg, Ysgrifennydd Cymdeithasol, Trysorydd, Is-Gadeirydd a Chadeirydd.
Swyddi ar lefel Sir – Aelod Iau y Flwyddyn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Ifan wedi cystadlu ar lefel sirol a Chymru mewn chystadleuthau barnu stoc yn Sioe Ffair Aeaf, Eisteddfod, Cwis y Sir a Noson Chwaraeon y Sir.
Uchelgais Ifan tu allan y CFFI yw cwblhau cwrs SQP a fydd yn ei alluogi i ddatblygu o fewn y busnes mae’n ei weithio a fydd yn caniatau iddo allu trafod a gwerthu meddyginiaethau anifeiliaid, gan geisio sicrhau dyfodol iddo yn y sector amaethyddiaeth sydd yn hollol bwysig iddo.
Llongyfarchiadau mawr i’r ddau a phob lwc iddynt ar lefel Cymru sy’n cael ei gynnal ar benwythnos Siarad Cyhoeddus C.Ff.I Cymru ar y 27ain o Fawrth yn Llanelwedd.
Ar Ddydd Sadwrn 29ain o Ionawr cynhaliwyd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg C.Ff.I Sir Gaerfyrddin yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cystadlodd yr aelodau yn y gystadleuaeth Darllen (Dan 14), Siarad Cyhoeddus Iau (Dan 16), Cystadleuaeth Seiat Holi (Dan 21) a chystadleuaeth Siarad ar ôl Cinio (Dan 28).
Diolch i Ysgol Gynradd Nantgaredig am gael defnyddio’r Ysgol; i’r stiwardiaid am rhediad esmwyth o’r holl gystadlaethau, i noddwyr y dydd Wynnstay, ac i’r hyfforddwyr a roddodd eu hamser i helpu a hyfforddi ein haelodau. Diolch yn fawr hefyd i’r pedwar beirniad; Mr Edryd Eynon (Darllen), Mr Wyn Thomas (Iau), Mr Aled Johnson (Seiat Holi) a Mrs Gwennan Jenkins (Siarad ar ôl Cinio).
Dyma canlyniadau’r diwrnod:
Enillwyr Tarian Her Ardal y De: C.Ff.I Capel-Arthne – Mabli Edwards, Beca Curry a Awen Davidson.
Cwpan Howard a Margaret Roberts wedi’i gyflwyno i’r unigolyn gorau yn yr Adran Ddarllen: Mabli Edwards, C.Ff.I Capel-Arthne.
Adran Iau dan 16:
Enillwyr Tarian Her Tegwyn Lloyd: C.Ff.I Capel-Arthne – Iwan Bryer, Gwenllian Jones a Trystan Tyler
Enillydd Cwpan Ronnie Ll. Roberts am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Iau: Gwenllian Jones, C.Ff.I Capel-Arthne
Seiat Holi dan 21:
Enillwyr Stand Gacennau Mary Kay Davies: C.Ff.I Penybont – Hannah Richards, Daniel O’Callaghan, Lleu Pryce a Caeo Pryce
Enillydd Tarian Nantybwla am y perfformiad unigol gorau yn yr Adran Ganol: Daniel O’Callaghan, C.Ff.I Penybont
Siarad ar ôl Cinio dan 28:
Enillwyr Tarian her y diweddar Col. Sir Grismond Phillips: C.Ff.I Penybont – Mared Evans, Fiona Phillips ac Elen Jones
Tarian Elonwy & Gareth Phillips am y perfformiad unigol gorau yn yr adran Hyn: Mared Evans, C.Ff.I Penybont
Ar Nos Fercher, 8fed o Ragfyr cynhaliwyd Cystadleuaeth Cwis C.Ff.I Sir Gaerfyrddin yng Nghlwb Rygbi’r Cwins, Caerfyrddin. Cystadlodd 17 tîm yn cynnwys tîm Swyddogion y Sir.
Diolch i Glwb Rygbi’r Cwins am adael i ni ddefnyddio’r safle unwaith eto eleni; i Iestyn Owen, Cyn-gadeirydd y Sir am greu’r Cwis, ac i’r holl dimoedd am gystadlu.
Llongyfarchiadau i dîm C.Ff.I San Clêr am gipio’r wobr 1af – Catherine Griffiths, Josh Hancock, Rebeca Phillips a Tom Hollins.